"Faint oedd yn y capel heddiw?"

Prin y byddai un ohonom yn dweud nad ydym yn dymuno gweld mwy o bobl yn troi i mewn i gydaddoli â ni ar y Sul. Peth digalon iawn yw gweld capel a allai ddal cannoedd yn cael ei fynychu gan lond llaw o ffyddloniaid a braf fyddai cael y wefr o fod mewn oedfa arbennig neu ddigwyddiad fel Diwrnod i’r Brenin bob wythnos.

Ond tybed a ydym ni’n rhoi gormod o sylw i niferoedd wrth drafod datblygiad eglwysi, a hynny ar draul y pethau sylfaenol? Rwy’n cofio un tro pan oeddwn mewn dosbarth Ysgol Sul a’r gweinidog yn cyfeirio yn fras at nifer y bobl oedd yn y capel y bore Sul blaenorol, ac un o’m cyfoedion yn ychwanegu’r union rif ar unwaith. Bu raid iddo gyfaddef ei fod wedi cyfri faint oedd yn y gynulleidfa yn ystod y bregeth!

CC BY Kinchan1 (Flickr)
Nid gweld faint a allwn ei ddenu i’r capel ar y Sul yw ein prif amcan, ond ufuddhau i Dduw fel unigolion ac fel eglwysi ymhob agwedd o fywyd. Dywedodd Iesu, ‘Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi’ (Ioan 4:34). Os bydd ein hymroddiad i’r gwaith yn dibynnu ar weld y canlyniadau, yna mae wedi’i wreiddio yn y man anghywir a bydd perygl i ni osod disgwyliadau afresymol arnom ein hunain ac ar eraill. Gyda chyflawni ewyllys Duw yn brif amcan, fodd bynnag, cawn ein hatgoffa yn barhaus mai sail ein gobaith a ffynhonnell ein nerth a’n dyfalbarhad, sef y gras a chariad y mae eisoes wedi’i ddangos tuag atom ym mherson Iesu Grist.

‘Felly, fy nghyfeillion annwyl,’ meddai Paul, ‘byddwch yn gadarn a disgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer’ (1 Cor 15:58). Wrth i ni lafurio, boed i ni sicrhau felly bod ei fod wedi’i wreiddio ‘yn yr Arglwydd’, ac ymddiriedwn yn Nuw i weithio ynom a thrwom i droi ein tystiolaeth o wirionedd yr efengyl yn ffydd yng nghalonnau eraill, gan dderbyn efallai na welwn ni fyth yr holl ffyrdd rhyfeddol y bydd yn gwneud hynny.

Dafydd Tudur

'Heddwch ar ddaear lawr'


Wrth i ni nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a saith-deg mlynedd ers glaniadau 'D-Day' yn Normandi, thema Cymanfa Bwnc yr ofalaeth eleni oedd 'Heddwch'. Daeth tua 80 ynghyd ar gyfer y Gymanfa yn Seilo, Llanon, i gofio am y rhai hynny a gollwyd mewn rhyfeloedd dros y ganrif ddiwethaf ac i weddio am heddwch yn ein byd.

Ar 4 Awst 1914, daeth y cyhoeddiad swyddogol bod Prydain yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen. Roedd nifer yn disgwyl y buasai’r rhyfel drosodd erbyn y Nadolig. Prin y byddent wedi dychmygu y byddai’n para dros bedair blynedd, a phrin y gallwn ninnau amgyffred nifer y bobl a effeithwyd ganddo. Erbyn i'r gynau dawelu ar y 11 Tachwedd 1918, roedd cyfanswm o tua 16 miliwn o bobl wedi’u lladd ac 20 miliwn wedi’u hanafu. Roedd tua 273,000 o Gymry wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog - dros hanner ohonynt o ganlyniad i orfodaeth filwrol - ac o’r rheini, lladdwyd tua 35,000. Gadawyd cannoedd o deuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn galaru dros eu hanwyliaid.

CC BY Mark Shirley (Flickr)

Ychydig dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd Prydain mewn rhyfel a’r Almaen unwaith yn rhagor. O ganlyniad i dechnolegau milwrol newydd, yn arbennig y defnydd o awyrennau, daeth y rhyfel i effeithio ar fywyd pob dydd. Ynghyd â'r miloedd o fechgyn a aeth i frwydro mewn rhannau eraill o'r byd, daeth dognu bwyd (rations), faciwîs a blacowts yn rhan o fywyd yma yng Ngheredigion. Lladdwyd tua 15,000 yn rhagor o Gymry yn yr Ail Ryfel Byd, a thua 60 miliwn dros y byd i gyd.

Yn y can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf - y rhyfel a oedd i fod i ddiweddu pob rhyfel - cafwyd y ganrif fwyaf gwaedlyd yn hanes y ddynoliaeth. Yn ogystal a’r ddau ryfel byd, cafwyd Rhyfel Cartref Sbaen, Rhyfel Korea, Rhyfel Vietnam, Rhyfel Ynysoedd y Falklands, Rhyfel y Gwlff, y Rhyfeloedd mwy diweddar yn Irac ac Affganistan, a hynny ddim ond i enwi rhai ohonynt. Ac er mor heddychlon yw hi yng ngorllewin Cymru, mae pobl eraill yn ein byd ni heddiw sy’n dioddef o ganlyniad i ryfel, a ninnau’n rhy barod i’w anwybyddu neu anghofio amdano tan ei fod yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni.


Ffotograffydd: Sue Howells

Eleni, roedd gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar wledydd yn ein byd sy’n cael eu heffeithio gan ryfel heddiw. O ganlyniad i ryfel a thrais mewn gwledydd fel Syria a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, mae cyfanswm y bobl sydd wedi eu gyrru o’u cartrefi gan ryfel ar gynnydd. Mae’r cyfanswm ar hyn o bryd yn 42 miliwn - mae'n ystadegyn syfrdanol a neges Cymorth Cristnogol yw nad oes rhaid iddi fod felly, dim ond i ni beidio a throi ein cefnau.

Beth bynnag eich barn ynghylch y rhesymau dros fynd i ryfel, gobeithio y gallwn gytuno nad yw rhyfel byth yn beth da. Fel Cristnogion, dylem hyrwyddo dulliau o ddatrys anghydfod heb droi at drais - nid yn unig rhwng gwledydd, ond hefyd ar aelwydydd, ymhlith teuluoedd, ac o fewn cymunedau. 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr', medd Crist, a 'carwch eich gelynion'. Boed i ni fod yn dangnefeddwyr yn ein byd, gan ddangos yr un tiriondeb a chariad at eraill ag y mae Crist wedi ei ddangos tuag atom ni.


Dilynwch @CapelLlwyncelyn ar Twitter i glywed y newyddion diweddaraf!

Tymor newydd

Yng Nghapel Llwyncelyn, ac mewn sawl capel arall rwy'n siwr, mae mis Medi yn teimlo fel dechrau blwyddyn newydd. Bydd y plant yn dychwelyd i'r Ysgol Sul a daw nifer o aelodau yn ôl o'u gwyliau yn barod am dymor newydd. Mae'n gyfnod o hel syniadau a llunio rhaglen o weithgareddau.

Rydyn ni wedi cael dechrau da i'r tymor newydd. Ers dechrau mis Medi, bedyddiwyd un o blant yr Eglwys a derbyniwyd dau yn gyflawn aelodau; mae'r hen feinciau trymion oedd yn llenwi'r festri bellach wedi mynd a chadeiriau ysgafn newydd wedi cymryd eu lle; ac mae criw yr Ysgol Sul wedi penodi swyddogion a llunio rhaglen o weithgareddau am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Os oes gennych ddiddordeb yng ngweithgareddau'r Eglwys, mae croeso i chi gysylltu â mi gan ddefnyddio'r cyfeiriad ebost sydd ar ochr dde'r dudalen. Os ydych yn yr ardal, beth am alw i mewn i gydaddoli â ni? Mae manylion y gwasanaethau hefyd ar ochr dde'r dudalen. I weld y gweithgareddau ar eu gorau, dewch i'r Gwasanaeth Teulu sy'n cael ei gynnal ar Sul cyntaf pob mis!

Dafydd Tudur


Sut allwn ni fod yn sicr o'n ffydd?

Dyma'r cwestiwn fu'n ganolog i'r drafodaeth yng nghyfarfod y Grwp Trafod yn festri Capel Llwyncelyn heno.Wel, yn syml iawn, mae'r Cristion yn cael sicrwydd ar sail tri pheth: Gair Duw, gwaith Crist, a thystiolaeth yr Ysbryd Glan.

Gair Duw: Mae'r Beibl yn llawn addewidion mae Duw yn eu gwneud i ni. Pa bynnag ffordd y byddwn yn teimlo, gallwn droi at y Beibl unrhyw byd gan wybod fod yr addewidion yno yn ddigyfnewid ac yr un mor berthnasol i ni gyntaf ag oedden nhw pan ysgrifenwyd hwy gyntaf.

Gwaith Crist: Mae sicrwydd y Cristion yn seiliedig ar waith Iesu Grist - ei fywyd, ei farwolaeth a'i atgyfodiad - yn hytrach nag ar ei allu ei hun. Drwy farwolaeth Crist ar y groes y rhoir maddeuant a bywyd tragwyddol, a thrwy edifeirwch a ffydd y derbyniwn y rhodd hwn.

Tystiolaeth yr Ysbryd: Mae'r Ysbryd Glan wedi ei anfon i'n cynnal. Mae'n ein newid yn fewnol ac mae'r ffrwyth i'w weld yn ein hagwedd a'n perthynas ag eraill. Mae'r Ysbryd hefyd yn rhoi argyhoeddiad i ni o wirionedd addewidion Duw.

Cafwyd trafodaeth dda ar yr holl bwyntiau uchod a llawer mwy! Byddwn yn anelu i gyfarfod eto ymhen pythefnos. Mae testun y cyfarfod nesaf i'w gadarnhau!