'Heddwch ar ddaear lawr'


Wrth i ni nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a saith-deg mlynedd ers glaniadau 'D-Day' yn Normandi, thema Cymanfa Bwnc yr ofalaeth eleni oedd 'Heddwch'. Daeth tua 80 ynghyd ar gyfer y Gymanfa yn Seilo, Llanon, i gofio am y rhai hynny a gollwyd mewn rhyfeloedd dros y ganrif ddiwethaf ac i weddio am heddwch yn ein byd.

Ar 4 Awst 1914, daeth y cyhoeddiad swyddogol bod Prydain yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen. Roedd nifer yn disgwyl y buasai’r rhyfel drosodd erbyn y Nadolig. Prin y byddent wedi dychmygu y byddai’n para dros bedair blynedd, a phrin y gallwn ninnau amgyffred nifer y bobl a effeithwyd ganddo. Erbyn i'r gynau dawelu ar y 11 Tachwedd 1918, roedd cyfanswm o tua 16 miliwn o bobl wedi’u lladd ac 20 miliwn wedi’u hanafu. Roedd tua 273,000 o Gymry wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog - dros hanner ohonynt o ganlyniad i orfodaeth filwrol - ac o’r rheini, lladdwyd tua 35,000. Gadawyd cannoedd o deuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn galaru dros eu hanwyliaid.

CC BY Mark Shirley (Flickr)

Ychydig dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd Prydain mewn rhyfel a’r Almaen unwaith yn rhagor. O ganlyniad i dechnolegau milwrol newydd, yn arbennig y defnydd o awyrennau, daeth y rhyfel i effeithio ar fywyd pob dydd. Ynghyd â'r miloedd o fechgyn a aeth i frwydro mewn rhannau eraill o'r byd, daeth dognu bwyd (rations), faciwîs a blacowts yn rhan o fywyd yma yng Ngheredigion. Lladdwyd tua 15,000 yn rhagor o Gymry yn yr Ail Ryfel Byd, a thua 60 miliwn dros y byd i gyd.

Yn y can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf - y rhyfel a oedd i fod i ddiweddu pob rhyfel - cafwyd y ganrif fwyaf gwaedlyd yn hanes y ddynoliaeth. Yn ogystal a’r ddau ryfel byd, cafwyd Rhyfel Cartref Sbaen, Rhyfel Korea, Rhyfel Vietnam, Rhyfel Ynysoedd y Falklands, Rhyfel y Gwlff, y Rhyfeloedd mwy diweddar yn Irac ac Affganistan, a hynny ddim ond i enwi rhai ohonynt. Ac er mor heddychlon yw hi yng ngorllewin Cymru, mae pobl eraill yn ein byd ni heddiw sy’n dioddef o ganlyniad i ryfel, a ninnau’n rhy barod i’w anwybyddu neu anghofio amdano tan ei fod yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni.


Ffotograffydd: Sue Howells

Eleni, roedd gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar wledydd yn ein byd sy’n cael eu heffeithio gan ryfel heddiw. O ganlyniad i ryfel a thrais mewn gwledydd fel Syria a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, mae cyfanswm y bobl sydd wedi eu gyrru o’u cartrefi gan ryfel ar gynnydd. Mae’r cyfanswm ar hyn o bryd yn 42 miliwn - mae'n ystadegyn syfrdanol a neges Cymorth Cristnogol yw nad oes rhaid iddi fod felly, dim ond i ni beidio a throi ein cefnau.

Beth bynnag eich barn ynghylch y rhesymau dros fynd i ryfel, gobeithio y gallwn gytuno nad yw rhyfel byth yn beth da. Fel Cristnogion, dylem hyrwyddo dulliau o ddatrys anghydfod heb droi at drais - nid yn unig rhwng gwledydd, ond hefyd ar aelwydydd, ymhlith teuluoedd, ac o fewn cymunedau. 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr', medd Crist, a 'carwch eich gelynion'. Boed i ni fod yn dangnefeddwyr yn ein byd, gan ddangos yr un tiriondeb a chariad at eraill ag y mae Crist wedi ei ddangos tuag atom ni.


No comments:

Post a Comment