tag:blogger.com,1999:blog-7422018715043811272024-02-07T16:48:19.896+00:00Eglwys Annibynnol LlwyncelynGwefan Eglwys Annibynnol Llwyncelyn, ger Llanarth. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ac adroddiadau am weithgareddau Cristnogol sy'n cael eu cynnal gan yr Eglwys.Dafydd Tudurhttp://www.blogger.com/profile/09065582906821699075noreply@blogger.comBlogger46125tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-50148394734719522272015-03-07T07:11:00.000+00:002015-03-07T07:31:13.810+00:00I Batagonia! (Adroddiad, Myfyrdod a Gweddi)

Adroddiad

Dathlu Dydd Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry ymfudo i Batagonia!

Cynhaliwyd dathliad Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yng nghapel a festri Llwyncelyn ar 6 Mawrth 2015.

Arweinwyd y noson gan Arwel Fronwen a chafwyd cyflwyniad byr ar hanes sefydlu’r Wladfa gan Dafydd Tudur cyn symud ymlaen at yr uchafbwynt, sef y wledd o ddoniau amrywiol disgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron. Cawsom ddiolchiadau ac anerchiad gan Catrin Cwmsaeson ac aeth pawb i’r festri, lle roedd llond gwlad o fara, caws, jam, pice bach a bara brith yn eu disgwyl.

Roedd yr arian a gasglwyd ar y drws yn mynd tuag at daith Catrin i Batagonia gyda’r Urdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bu’n noson arbennig o lwyddiannus a chofiadwy dros ben a diolch i bawb a gyfrannodd ati ac a’i cefnogodd.

Myfyrdod

Gobaith o Fywyd Gwell

Wrth glywed yr hanes am sefydlu’r Wladfa, mae’n anodd peidio gweld y cysylltiad rhwng y sefyllfa a wynebai nifer o Gymry yn y dyddiau hynny a’r sefyllfa yng nghefn gwlad heddiw.

Roedd rhent a’r degwm yn gwasgu ar deuluoedd yng Ngymru’r 19eg ganrif ac roedd prinder cartrefi neu dir i bobl ifanc. Doedd dim dewis i nifer fawr ohonynt ond mynd dros y ffin i Loegr, neu edrych ymhellach tuag at America neu Awstralia, i chwilio am fywyd gwell. Ac fel y gwelodd Michael D. Jones, cost hynny fel arfer oedd bod y Cymry a’u disgynyddion yn defnyddio llai ar y Gymraeg ac yn colli pob arwydd o’u tras Cymreig.

Gyda Gwladfa Gymreig, roedd gobaith y byddai’r ymfudwyr yn cael y gorau o’r ddau fyd: y gobaith o ryddid o gaethiwed economaidd ac hefyd y gobaith o fyw mewn cymdeithas oedd wedi ei ffurfio ar sail iaith a diwylliant y Cymry. Roedd yn brosiect i greu dim llai na Chymru ‘newydd’, a honno’n Gymru well.

Gwlad yr Addewid

Yn y Beibl, cawn hanes Duw yn defnyddio Moses ac yna Joshua i arwain cenedl Israel o gaethiwed yr Aifft i wlad yr addewid, ble roeddent i ddechrau bywyd newydd a gwell. Mae’r hanes hwn - un sy’n cynnwys digwyddiadau fel y berth yn llosgi, y deg pla, agor y Mor Coch, a chwymp Jericho - yn un o hanesion mwyaf epig a chyfarwydd yr Hen Destament.

Ond pwyntio mae’r hanes hwnnw at ddigwyddiadau mwy sylfaenol ac arwyddocaol yn hanes y byd - hanes sydd a goblygiadau enfawr i’r ddynoliaeth gyfan. Dyma’r hanes am Dduw yn arwain ei bobl o dywyllwch a chaethiwed eu pechod i oleuni a rhyddid y bywyd tragwyddol. Un o ryfeddodau mawr yr hanes hwn yw ei fod yn digwydd mewn ffordd sy’n cyflawni proffwydoliaethau’r Hen Destament, ac eto mor annisgwyl i’r bobl a oedd yn seilio’u diwylliant a’u cred ar yr ysgrythurau hynny. Mae’n ei wneud trwy’r un a alwyd yn Iesu.

Mae grwp ohonom wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol yn Yr Hen Siop ers yr hydref i astudio bywyd Iesu fel mae wedi’i gofnodi. Rhai o’r pethau sydd wedi fy nharo yn y cyfarfodydd hyn yw’r ffordd mae nhw wedi herio ein rhagdybiaethau (assumptions) a rhagfarnau (prejudices) ynglyn â Iesu ac wedi dangos i ni sylwedd a chyfoeth y Beibl. Ymhob peth - ei eiriau, ei weithredoedd a hyd yn oed ei enw (sy’n tarddu o’r hebraeg Yeshua, sy’n golygu ‘Duw yn achub’) - roedd Iesu yn dangos mai ef yw’r drws i fywyd tragwyddol (Ioan 10:9).

Enw arall a roed i Iesu, yn ôl hanes y geni, yw Immanuel ‘hynny yw, o’i gyfieithu “Y mae Duw gyda ni”’ (Mathew 1:23). A dyma ryfeddod arall yr hanes am Dduw yn arwain ei bobl i wlad yr addewid, sef ei fod ef wedi dod atom ni ym mherson Iesu Grist. Nid rhywbeth sydd ymhell i ffwrdd - rhywbeth y mae’n rhaid i ni aros amdano tan y bydd ein bywyd ar y ddaear hon yn dod i ben - yw ‘bywyd tragwyddol’. Trwy ddod i adnabod yr Iesu fel yr un sydd wedi dod i’n hachub, cawn wybod beth yw ‘bywyd tragwyddol’ yn y bywyd hwn yn ogystal a’r nesaf (Ioan 17:3).

Cadw’r addewid

Rwyf wedi clywed gwahanol bobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i hanes y Wladfa. Mae rhai yn cael eu llenwi ag edmygedd tuag at yr ymfudwyr ar sail eu dyfalbarhad er gwaethaf pob caledi a dioddefaint; mae eraill yn feirniadol iawn o’r arweinyddion ac yn eu cyhuddo o gamarwain yr ymfudwyr i ddarn o dir a oedd, ar ol gadael eu cartrefi a theithio miloedd o filltiroedd, yn anaddas ar eu cyfer. Maent yn cyhuddo’r arweinyddion o dorri’r addewid oedd yn sylfaenol i’r fenter.

Hyd yn oed i’r Cristion gyda’r argyhoeddadau dyfnaf, bydd adegau mewn bywyd pan nad yw ‘bywyd tragwyddol’ yn teimlo fel petai gyda ni yn barod. Rydym yn byw mewn byd ble mae caledi a dioddefaint yn realiti a bydd yn rhan o brofiad pob un ohonom yn ystod ein hoes. Rwyf wedi clywed am rai sydd wedi pellhau oddi wrth Dduw ar adegau felly. Gall deimlo bod Duw yn absennol, wedi torri ei addewid ac wedi ein siomi.

Ond neges y Beibl yw bod Duw yn agos atom ymhob sefyllfa, ac mae’n dymuno i ni wybod hynny, yn enwedig pan mae pethau yn anodd arnom (Salm 34:18). Mae am i ni wybod ei fod yn Dduw ffyddlon sy'n cadw ei addewidion (Deut 7:9), er mor anodd y gall hynny fod o bryd i’w gilydd, ac ymddiried ynddo i roi i ni bopeth sydd ei angen arnom i wynebu unrhyw beth. Y mae Duw gyda ni ac y mae Duw yn ein hachub.

Gweddi

Diolchwn am y dathliad gafodd ei gynnal yn y Capel a'r festri - am gael dathlu doniau ieuenctid yr ardal, ein hiaith a'n diwylliant, yn ogystal a hanes rhyfeddol y Wladfa. Diolch hefyd ein bod wedi mwynhau cwmni ein gilydd a gofynnwn am fendith Duw ar Catrin a Carwyn pan fyddant yn teithio i Batagonia yn ddiweddarach eleni.

Diolchwn bod Duw yn gweld ein anghenion ac yn estyn allan atom bob un, beth bynnag ein sefyllfa. Gweddiwn am gymorth i ymddiried yn Nuw ac i bwyso ar ei addewidion bob amser gan gofio’r cariad mae wedi ei ddangos tuag atom yn Iesu Grist. Amen.

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-19995140014312253622015-02-22T21:19:00.000+00:002015-02-22T21:19:07.152+00:00

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-1910741008454292292014-10-16T00:19:00.002+01:002014-10-16T00:19:30.582+01:00Llenwi’r bwlch yng nghymunedau cefn gwlad

Un profiad sy’n gyffredin ar draws cefn gwlad Cymru yn y blynyddoedd diweddar yw cau’r adeiladau a fu unwaith yn ganolfannau i fywyd cymunedol.

Rhwng 2007 a 2009, caewyd 157 o swyddfeydd post ar draws Cymru fel rhan o’r Rhaglen Newid Rhwydwaith Swyddfeydd Post. Yr un fu tynged nifer o siopau pentref, nid oherwydd unrhyw benderfyniad oddi uchod, ond oherwydd methiant i gystadlu a phrisiau gostyngol yr archfarchnadoedd mawrion. Rhoddwyd cryn sylw hefyd i’r bygythiad i ysgolion gwledig, yn arbennig drwy ymgyrch aflwyddianus i gadw drysau Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala, ar agor.

Canlyniad y datblygiadau hyn yw pellhau gwasanaethau pwysig fel y post a’r siop ac adleoli (ac weithiau gwasgaru) ieuenctid yr ardal. Mae’n lleihau cyfleon ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a phontio cenedlaethau, sydd yn eu tro yn cael effaith andwyol ar y gymuned ac yn gwneud i rai o’i haelodau mwyaf bregus deimlo’n ynysig ac yn unig.

Er mor drist yw gweld yr adeiladau hyn yn cau eu drysau, tybed a yw’r bwlch a adewir ar ol ganddynt yn un y gall yr eglwysi ei lenwi? Yn wahanol i’r dafarn leol, nid yw parhad eglwysi yn ddibynnol ar incwm; i’r gwrthwyneb, mae nifer o eglwysi yn gymharol gysurus yn ariannol. Mae gan nifer o gymunedau eu neuaddau pentref, ond er y cynhelir gweithgareddau ynddynt yn rheolaidd, adeiladau digon oeraidd a digroeso ydynt yn aml iawn.

Gydag ychydig o weledigaeth, rhywfaint o fuddsoddiad ariannol a chnewyllyn o wirfoddolwyr, gallai eglwys droi ei hadeiladau yn ofodau croesawgar, cysurus a chartrefol a’u troi yn ganolfannau galw heibio (‘drop-in centres’) yn ystod yr wythnos. Gellid, er enghraifft, rhoi seddi cyfforddus i eistedd arnynt i sgwrsio. Gellid gosod rhwydwaith wi-fi i alluogi ymwelwyr i bori’r We neu weithio. Gellid cynnig rhywbeth i ddifyrru ieuenctid yr ardal gyda’r nos (bwrdd pwl neu offer tenis bwrdd). Trwy drefnu rota, gallai aelodau’r eglwys fod yno ar wahanol nosweithiau o’r wythnos i roi croeso a gwasanaethu’r ymwelwyr.

Nid wyf yn meddwl am funud y buasai hyn yn hawdd. Buasai’n golygu goresgyn ein sentimentaliaeth ynghylch ein hadeiladau a’n nerfusrwydd ynghylch gweithgareddau estyn allan. I aelodau’r gymuned, tybiaf y bydd yn gam mawr i nifer ohonynt osod troed ar dir y capel. Byddai angen gweddio’n gyson dros y gwaith a gofyn am arweiniad, dyfalbarhad, amynedd, doethineb a chariad at ein cymydog. Buasai angen i ni gofio hefyd bwysigrwydd yr Ysbryd Glan i’r gwaith a’i ganlyniadau.

A thrwy ddangos consyrn gwirioneddol dros anghenion ein cymunedau a pharodrwydd i’w diwallu, fe dyfa’r math o gyfeillgarwch ac ymddiriedaeth sydd mor werthfawr mewn unrhyw gymdeithas ac, yn hwyr neu’n hwyrach, fe ddaw cyfle i son am weithgareddau eraill yr eglwys ac estyn gwahoddiad iddynt. A thrwy geisio llenwi’r bwlch cymdeithasol sydd wedi datblygu yng nghynifer o gymunedau cefn gwlad Cymru, yr wyf yn ffyddiog y daw cyfle hefyd i esbonio’r modd y mae Duw wedi llenwi’r bwlch llawer mwy yn ein bywyd drwy’r hyn a wnaeth Iesu drosom.

DT (Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tyst, Mai 2013)

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-59550373960944453562014-10-16T00:10:00.001+01:002014-10-16T00:10:28.649+01:00Cyfraniad cyntaf Capel Llwyncelyn i'r Banc Bwyd lleol yn cyrraedd Aberteifi

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-57848044968202108182014-08-31T23:23:00.000+01:002014-08-31T23:23:54.424+01:00Casglu bwyd i Fanc Bwyd AberteifiAr Sul cyntaf pob mis o hyn ymlaen, byddwn yn casglu eitemau bwyd fydd yn cael eu cyfrannu gan aelodau a chyfeillion Eglwys Annibynnol Llwyncelyn i'w dosbarthu ymhlith yr anghenus yng ngorllewin Cymru.

Mae'n anodd credu bod galw am elusen fel Banciau Bwyd y Trussell Trust yma yng ngwledydd Prydain, ond mae'r galw amdanynt wedi bod yn syfrdanol gyda bron i filiwn o bobl yn derbyn tocynau bwyd brys yn 2013-14. Yn Aberteifi y mae'r Banc Bwyd agosaf i ni a cheir rhagor o wybodaeth amdano ac am yr elusen yn gyffredinol ar ei wefan.

Gofynnir i gefnogwyr gyfrannu rhai bwydydd penodol i'r Banc Bwyd, sef:

Llaeth (UHT neu bowdr)

Siwgr (500g)

Sudd ffrwythau (Carton)

Cawl (Soup)

Saws pasta

Sponge pudding (mewn tun)

Tomatos (mewn tun)

Grawnfwydydd (cereals)

Pwdin reis (mewn tun)

Bagiau te / coffi instant

Tato mash instant

Reis/pasta

Cig/pysgod mewn tun

Llysiau mewn tun

Ffrwythau mewn tun

Jam

Bisgedi neu snack bars

Os hoffech chi gyfrannu rhai o'r eitemau hyn, dewch â hwy i Lwyncelyn am 2pm ar Sul cyntaf pob mis. Byddwn hefyd yn y festri rhwng tua 3 a 3.30.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-75453435890125130202014-07-21T00:09:00.000+01:002014-07-24T09:19:07.348+01:00Grwp astudiaeth i ddechrau yn yr hydref
'Y mae dy air y llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr.' (Salm 119:105)

Pan ddaw'r hydref, bydd aelodau eglwysi Annibynnol Cei Newydd ac Aberaeron yn dod ynghyd i sefydlu dosbarth Beiblaidd. Ein hamcan fydd astudio'r Beibl gyda'n gilydd mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Byddwn yn dechrau gyda 'Marc i Bawb', cyfres o astudiaethau yn seiliedig ar efengyl Marc gan N. T. Wright ac yn defnyddio'r fersiwn beibl.net.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Yr Hen Siop, Derwen Gam, am 8pm nos Fawrth, 7 Hydref a bydd croeso cynnes i bawb!

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu trwy e-bost capel.llwyncelyn@gmail.com neu'r cyfrif Twitter @CapelLlwyncelyn.

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-24469242383106382302014-07-06T11:38:00.001+01:002014-07-06T12:41:36.341+01:00Trip yr Ofalaeth i safle Capel y Babell ar Fynydd Epynt, 22 Mehefin 2014

Gyda diolch i Sue Howells am y ffotograffau.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-77577848869797547022014-06-29T14:49:00.000+01:002014-06-29T14:49:06.130+01:00

Dafydd Tudurhttp://www.blogger.com/profile/14858480563618558231noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-35591780992981880272014-06-24T21:48:00.002+01:002014-06-24T22:04:18.243+01:00"Faint oedd yn y capel heddiw?"Prin y byddai un ohonom yn dweud nad ydym yn dymuno gweld mwy o bobl yn troi i mewn i gydaddoli â ni ar y Sul. Peth digalon iawn yw gweld capel a allai ddal cannoedd yn cael ei fynychu gan lond llaw o ffyddloniaid a braf fyddai cael y wefr o fod mewn oedfa arbennig neu ddigwyddiad fel Diwrnod i’r Brenin bob wythnos.

Ond tybed a ydym ni’n rhoi gormod o sylw i niferoedd wrth drafod datblygiad eglwysi, a hynny ar draul y pethau sylfaenol? Rwy’n cofio un tro pan oeddwn mewn dosbarth Ysgol Sul a’r gweinidog yn cyfeirio yn fras at nifer y bobl oedd yn y capel y bore Sul blaenorol, ac un o’m cyfoedion yn ychwanegu’r union rif ar unwaith. Bu raid iddo gyfaddef ei fod wedi cyfri faint oedd yn y gynulleidfa yn ystod y bregeth!

CC BY Kinchan1 (Flickr)

Nid gweld faint a allwn ei ddenu i’r capel ar y Sul yw ein prif amcan, ond ufuddhau i Dduw fel unigolion ac fel eglwysi ymhob agwedd o fywyd. Dywedodd Iesu, ‘Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi’ (Ioan 4:34). Os bydd ein hymroddiad i’r gwaith yn dibynnu ar weld y canlyniadau, yna mae wedi’i wreiddio yn y man anghywir a bydd perygl i ni osod disgwyliadau afresymol arnom ein hunain ac ar eraill. Gyda chyflawni ewyllys Duw yn brif amcan, fodd bynnag, cawn ein hatgoffa yn barhaus mai sail ein gobaith a ffynhonnell ein nerth a’n dyfalbarhad, sef y gras a chariad y mae eisoes wedi’i ddangos tuag atom ym mherson Iesu Grist.

‘Felly, fy nghyfeillion annwyl,’ meddai Paul, ‘byddwch yn gadarn a disgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer’ (1 Cor 15:58). Wrth i ni lafurio, boed i ni sicrhau felly bod ei fod wedi’i wreiddio ‘yn yr Arglwydd’, ac ymddiriedwn yn Nuw i weithio ynom a thrwom i droi ein tystiolaeth o wirionedd yr efengyl yn ffydd yng nghalonnau eraill, gan dderbyn efallai na welwn ni fyth yr holl ffyrdd rhyfeddol y bydd yn gwneud hynny.

Dafydd Tudur

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-15136457318070379762014-06-24T21:24:00.001+01:002014-07-05T20:43:17.099+01:00'Heddwch ar ddaear lawr'

Wrth i ni nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a saith-deg mlynedd ers glaniadau 'D-Day' yn Normandi, thema Cymanfa Bwnc yr ofalaeth eleni oedd 'Heddwch'. Daeth tua 80 ynghyd ar gyfer y Gymanfa yn Seilo, Llanon, i gofio am y rhai hynny a gollwyd mewn rhyfeloedd dros y ganrif ddiwethaf ac i weddio am heddwch yn ein byd.

Ar 4 Awst 1914, daeth y cyhoeddiad swyddogol bod Prydain yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen. Roedd nifer yn disgwyl y buasai’r rhyfel drosodd erbyn y Nadolig. Prin y byddent wedi dychmygu y byddai’n para dros bedair blynedd, a phrin y gallwn ninnau amgyffred nifer y bobl a effeithwyd ganddo. Erbyn i'r gynau dawelu ar y 11 Tachwedd 1918, roedd cyfanswm o tua 16 miliwn o bobl wedi’u lladd ac 20 miliwn wedi’u hanafu. Roedd tua 273,000 o Gymry wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog - dros hanner ohonynt o ganlyniad i orfodaeth filwrol - ac o’r rheini, lladdwyd tua 35,000. Gadawyd cannoedd o deuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn galaru dros eu hanwyliaid.

CC BY Mark Shirley (Flickr)

Ychydig dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd Prydain mewn rhyfel a’r Almaen unwaith yn rhagor. O ganlyniad i dechnolegau milwrol newydd, yn arbennig y defnydd o awyrennau, daeth y rhyfel i effeithio ar fywyd pob dydd. Ynghyd â'r miloedd o fechgyn a aeth i frwydro mewn rhannau eraill o'r byd, daeth dognu bwyd (rations), faciwîs a blacowts yn rhan o fywyd yma yng Ngheredigion. Lladdwyd tua 15,000 yn rhagor o Gymry yn yr Ail Ryfel Byd, a thua 60 miliwn dros y byd i gyd.

Yn y can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf - y rhyfel a oedd i fod i ddiweddu pob rhyfel - cafwyd y ganrif fwyaf gwaedlyd yn hanes y ddynoliaeth. Yn ogystal a’r ddau ryfel byd, cafwyd Rhyfel Cartref Sbaen, Rhyfel Korea, Rhyfel Vietnam, Rhyfel Ynysoedd y Falklands, Rhyfel y Gwlff, y Rhyfeloedd mwy diweddar yn Irac ac Affganistan, a hynny ddim ond i enwi rhai ohonynt. Ac er mor heddychlon yw hi yng ngorllewin Cymru, mae pobl eraill yn ein byd ni heddiw sy’n dioddef o ganlyniad i ryfel, a ninnau’n rhy barod i’w anwybyddu neu anghofio amdano tan ei fod yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni.

Ffotograffydd: Sue Howells

Eleni, roedd gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar wledydd yn ein byd sy’n cael eu heffeithio gan ryfel heddiw. O ganlyniad i ryfel a thrais mewn gwledydd fel Syria a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, mae cyfanswm y bobl sydd wedi eu gyrru o’u cartrefi gan ryfel ar gynnydd. Mae’r cyfanswm ar hyn o bryd yn 42 miliwn - mae'n ystadegyn syfrdanol a neges Cymorth Cristnogol yw nad oes rhaid iddi fod felly, dim ond i ni beidio a throi ein cefnau.

Beth bynnag eich barn ynghylch y rhesymau dros fynd i ryfel, gobeithio y gallwn gytuno nad yw rhyfel byth yn beth da. Fel Cristnogion, dylem hyrwyddo dulliau o ddatrys anghydfod heb droi at drais - nid yn unig rhwng gwledydd, ond hefyd ar aelwydydd, ymhlith teuluoedd, ac o fewn cymunedau. 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr', medd Crist, a 'carwch eich gelynion'. Boed i ni fod yn dangnefeddwyr yn ein byd, gan ddangos yr un tiriondeb a chariad at eraill ag y mae Crist wedi ei ddangos tuag atom ni.

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-83275524333847277732014-06-21T18:13:00.000+01:002014-06-21T18:13:11.253+01:00Dilynwch @CapelLlwyncelyn ar Twitter i glywed y newyddion diweddaraf!

Dafydd Tudurhttp://www.blogger.com/profile/14858480563618558231noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-41819977462935638142013-03-31T11:36:00.000+01:002013-03-31T11:36:03.670+01:00

Dafydd Tudurhttp://www.blogger.com/profile/14858480563618558231noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-19668359012802109842011-10-23T08:14:00.006+01:002011-10-23T08:27:23.569+01:00Tymor newydd
Yng Nghapel Llwyncelyn, ac mewn sawl capel arall rwy'n siwr, mae mis Medi yn teimlo fel dechrau blwyddyn newydd. Bydd y plant yn dychwelyd i'r Ysgol Sul a daw nifer o aelodau yn ôl o'u gwyliau yn barod am dymor newydd. Mae'n gyfnod o hel syniadau a llunio rhaglen o weithgareddau.

Rydyn ni wedi cael dechrau da i'r tymor newydd. Ers dechrau mis Medi, bedyddiwyd un o blant yr Eglwys a derbyniwyd dau yn gyflawn aelodau; mae'r hen feinciau trymion oedd yn llenwi'r festri bellach wedi mynd a chadeiriau ysgafn newydd wedi cymryd eu lle; ac mae criw yr Ysgol Sul wedi penodi swyddogion a llunio rhaglen o weithgareddau am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Os oes gennych ddiddordeb yng ngweithgareddau'r Eglwys, mae croeso i chi gysylltu â mi gan ddefnyddio'r cyfeiriad ebost sydd ar ochr dde'r dudalen. Os ydych yn yr ardal, beth am alw i mewn i gydaddoli â ni? Mae manylion y gwasanaethau hefyd ar ochr dde'r dudalen. I weld y gweithgareddau ar eu gorau, dewch i'r Gwasanaeth Teulu sy'n cael ei gynnal ar Sul cyntaf pob mis!

Dafydd Tudur

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-63622433298485578712011-07-19T22:36:00.002+01:002011-07-19T23:02:41.889+01:00Sut allwn ni fod yn sicr o'n ffydd?Dyma'r cwestiwn fu'n ganolog i'r drafodaeth yng nghyfarfod y Grwp Trafod yn festri Capel Llwyncelyn heno.Wel, yn syml iawn, mae'r Cristion yn cael sicrwydd ar sail tri pheth: Gair Duw, gwaith Crist, a thystiolaeth yr Ysbryd Glan.

Gair Duw: Mae'r Beibl yn llawn addewidion mae Duw yn eu gwneud i ni. Pa bynnag ffordd y byddwn yn teimlo, gallwn droi at y Beibl unrhyw byd gan wybod fod yr addewidion yno yn ddigyfnewid ac yr un mor berthnasol i ni gyntaf ag oedden nhw pan ysgrifenwyd hwy gyntaf.

Gwaith Crist: Mae sicrwydd y Cristion yn seiliedig ar waith Iesu Grist - ei fywyd, ei farwolaeth a'i atgyfodiad - yn hytrach nag ar ei allu ei hun. Drwy farwolaeth Crist ar y groes y rhoir maddeuant a bywyd tragwyddol, a thrwy edifeirwch a ffydd y derbyniwn y rhodd hwn.

Tystiolaeth yr Ysbryd: Mae'r Ysbryd Glan wedi ei anfon i'n cynnal. Mae'n ein newid yn fewnol ac mae'r ffrwyth i'w weld yn ein hagwedd a'n perthynas ag eraill. Mae'r Ysbryd hefyd yn rhoi argyhoeddiad i ni o wirionedd addewidion Duw.

Cafwyd trafodaeth dda ar yr holl bwyntiau uchod a llawer mwy! Byddwn yn anelu i gyfarfod eto ymhen pythefnos. Mae testun y cyfarfod nesaf i'w gadarnhau!DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-84854393549696338782011-07-03T23:26:00.002+01:002011-07-03T23:39:24.697+01:00Perfformio stori JonaStori epig Jona oedd testun y Gwasanaeth Teulu yng Nghapel Llwyncelyn ddechrau mis Gorffennaf. Roedd criw y Clwb Sul yn cyflwyno gwaith celf sy'n dangos tair golygfa o'r stori drwy berfformio'r hanes yn llawn yn y capel. Cafwyd sawl golygfa gofiadwy yn y ddrama, gan gynnwys Jona redeg i ffwrdd drwy ddrws y capel, y cor mawr yn troi'n fwrdd llong a'r morwyr yn cael eu taflu o ochr i ochr yn y storm, a'r pryfyn (aur) yn difa'r planhigyn a roddodd Duw yn gysgod i Jona rhag yr haul.

Wedi hynny, rhoddodd Dafydd esboniad cryno o'r hanes gan ddangos ei berthnasedd i ni heddiw. Mae gan Dduw bwrpas ar gyfer pob un ohonom, ond a ydym ni fel Jona yn rhedeg i ffwrdd? Mae Duw gyda ni bob amser, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anufudd ac yn rhedeg i ffwrdd fel Jona yn ffoi i borthladd Joppa, neu'n anobeithio fel Jona ar fwrdd y llong yn y storm, neu yn ein hawr dduaf, fel Jona ym mol y pysgodyn. Ac, yn drydydd, mae Duw yn gofyn ein bod ni nid yn unig yn gwneud yr hyn sy'n iawn, ond yn ildio yn llwyr i'w ewyllys. Hyd yn oed ar ol cyflwyno'r neges i bobl Ninefe, nid oedd Jona wedi gweld beth oedd hynny'n ei olygu.

Roedd tua 50 o oedolion a phlant yn y gwasanaeth ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd prosiect nesaf y Clwb Sul.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-71248265948351648522011-06-17T01:36:00.001+01:002011-06-17T01:36:23.822+01:00'Super-injunctions': Gwaharddebau a'r GwaredwrNid wyf yn un sy'n dilyn hynt a helyntion selebs, ond bu un stori yn y wasg yn ystod y mis diwethaf y methais ei hanwybyddu. Y stori sydd gennyf dan sylw yw'r un am y pel-droediwr a geisiodd ddefnyddio 'super-injunction' i rwystro ei feistres rhag datgelu ei gamymddygiad i'r byd. Wrth gwrs, bu'r ymgais yn aflwyddianus ac mae'r holl fater wedi cael llawer mwy o sylw nag y byddai'r pel-droediwr wedi'i ddychmygu pan geisiodd osod y waharddeb yn y lle cyntaf.

Er mor barod y byddwn i bwyntio bys ac anghymeradwyo pan welwn eraill yn camymddwyn, go brin y gall unrhyw un ohonom ddweud nad ydym wedi erioed wedi gweithredu yn ddifeddwl neu'n ddiymatal ac yna orfod ceisio rheoli'r canlyniadau. Byddwn yn aml yn ceisio cyfiawnhau ein gweithredoedd drwy roi'r bai ar rhywun arall neu ddadlau nad oedd dewis gennym dan yr amgylchiadau.

Wrth gwrs, does dim son am 'super-injunctions' yn y Beibl. A dweud y gwir, mae'r Beibl yn dweud wrthym fod Duw yn gweld ein holl weithredoedd, hyd yn oed y rhai hynny'n sy'n guddiedig oddi wrth ddynion eraill. 'Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gwêl ei holl gamau.' medd Elihu wrth Job, 'Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio' (Job 34:21-22). Mae'r Salmydd hefyd yn canu am adnabyddiaeth Duw ohonom yn Salm 139 a dywed Iesu fod 'pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo' (Mathew 10:30).

Ar y naill law, gallwn gymryd cysur mawr o wybod fod Duw yn ein hadabod cystal. Ar y llaw arall, ni allwn ond cywilyddio wrth sylweddoli nad oes unrhyw un o'm meddyliau a gweithredoedd wedi'u cuddio rhagddo. Ni all yr un ohonom ddweud nad ydym erioed wedi pechu. Mae pawb ohonom yn euog o dorri cyfraith Duw (Iago 2:10) ac yr ydym oll wedi 'crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun' (Eseia 53:6).

Y diffyg hwn ymhob un ohonom, a'r ffaith ein bod ni oll yn atebol am ein pechodau, sy'n rhoi i bob un ohonom yr angen am Waredwr. Dangosodd Duw ddyfnder ei gariad tuag atom drwy ymateb i'n hangen ac rhoi ei Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16). Nid i guddio ein beiau rhag eraill y cafodd Iesu ei anfon i'n byd, ond i wynebu'r gosb amdanynt yn ein lle. Ac nid er mwyn gwarchod rhyw lun o integriti gerbron dynion eraill y gwnaeth hynny ond i'n gwisgo a chyfiawnder a sancteiddrwydd gerbron Duw. Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd oddi wrth ein camweddau, mae'r Iesu yn gofyn i ni syrthio ar ein bai, troi cefn ar bechod, a'i ddilyn Ef. Na, does dim son am 'super-inunction' yn y Beibl, ond pwy sydd angen gwaharddeb pan fo gennym Waredwr yn Iesu Grist?

Dafydd TudurDAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-29031061638560728342011-06-14T08:02:00.002+01:002011-06-14T08:08:44.171+01:00O ddrws i ddrws: cyfanswm yr arian a godwyd yn ystod Wythnos Cymorth CristnogolRoedd yr arian a gasglwyd wrth fynd o ddrws i ddrws yn Llwyncelyn a Derwen Gam yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn ddigon i brynu:

- Pwmp i gludo dwr er mwyn galluogi teuluoedd i dyfu cnydau mewn ardaloedd sych (£59)
- Pedwar mis o ysgol i blentyn yn y Philippines (£36)
- Hadau i ddau deulu yn Zimbabwe a fyddai'n sicrhau bwyd iddynt pan ddaw'r cynhaeaf nesaf (£22)
- Gafr i roi llaeth, caws a gwlan i deulu yn Afghanistan (£25)

Daeth cyfanswm y casgliad i £142.21.

Diolch i'r rhai hynny fu'n cynorthwyo gyda'r casglu ac i bawb yn Llwyncelyn a'r Dderwen Gam am eu cyfraniadau.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-90006995358819021992011-06-14T07:46:00.004+01:002011-06-14T08:02:01.512+01:00'Byd yr Aderyn Bach'Ar nos Sul, 12 Mehefin, daeth Cwmni'r Morlan i Neuadd Llwyncelyn i berfformio 'Byd yr Aderyn Bach', cyflwyniad i hanes bywyd a gwaith Waldo Williams. Bu'r cyflwyniad yn gyfle i ddysgu am fywyd un o feirdd mwyaf Cymru'r ugeinfed ganrif, i fwynhau ei farddoniaeth, i gael ein diddanu gan ei hiwmor a'n hybrydoli gan ei egwyddorion dyfnion. Yno hefyd oedd Cor Cardi-gan yn canu Y Tangnefeddwyr a threfnianau o Weddi'r Arglwydd ac O Nefol Addfwyn Oen.

Rai wythnosau yn ôl penderfynodd Eglwysi Annibynnol Cylch Aberaeron gynnal y digwyddiad hwn ar Sul y Gymanfa Bwnc. Bu'n llwyddiant ysgubol: roedd dros gant o bobl yn y gynulleidfa a llwyddwyd i godi dros £400 tuag at Gymorth Cristnogol.

Mae Cwmni'r Morlan yn croesawu gwahoddiadau i berfformio'r cyflwyniad. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan y Morlan, Aberystwyth.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-10136760911347837082011-05-18T10:16:00.007+01:002011-05-18T10:25:53.506+01:00Wythnos Cymorth Cristnogol - 15-21 Mai 2011Yr wythnos hon, bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol fel rhan o Wythnos Cymorth Cristnogol. Mae'r wythnos yn gyfle i godi ymwybyddiaeth, codi arian a gweddio dros y gwaith mae'r mudiad yn ei wneud mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd.

Yn Llwyncelyn, rydyn ni eisoes wedi cynnal gwasanaeth Cymorth Cristnogol ar Sul cyntaf mis Mai. Roedd yn gyfle i glywed sut mae pobl Nicaragua wedi elwa o gefnogaeth Cymorth Cristnogol, i roi diolch am y cynnydd a wnaed eisoes ac i weddio dros y waith y presennol a'r dyfodol.

Byddwn hefyd yn mynd o ddrws i ddrws ym mhentrefi Llwyncelyn a Derwen Gam yn dosbarthu a chasglu amlenni yn gwahodd cyfraniadau i'r mudiad.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-54566061430654670902011-05-07T08:36:00.006+01:002011-05-07T09:38:40.051+01:00Dangos ein cardiau!Mae cardiau 'busnes' newydd Eglwys Annibynnol Llwyncelyn wedi cyrraedd o'r diwedd!

Rydyn ni wedi archebu 500 a'r syniad yw y gellir rhoi cerdyn i unrhyw un sy'n dangos diddordeb ym mywyd yr Eglwys. Gallai cynnig y cerdyn hefyd fod yn ffordd hwylus o gychwyn sgwrs.

Dewch i ni weld a allwn ni rannu 500 o gardiau yn ardal Llwyncelyn dros yr haf!DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-61454641354153795882011-05-03T06:05:00.030+01:002011-05-04T13:59:49.635+01:00Ymateb i ddienyddio Osama Bin Laden, Mai 2011Daeth y newyddion yn oriau man bore ddoe (2 Mai 2011) fod milwyr Americanaidd wedi dienyddio'r arweinydd terfysgol Osama Bin Laden yn nhref Abbottabad ym Mhacistan.  Fe'i derbyniwyd gyda llawenydd mawr mewn sawl rhan o'r byd, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau ble cyflawnwyd un o'r gweithredoedd terfysgol gwaethaf dan orchymyn Bin Laden, sef ymosodiadau 9/11.

Nid pawb oedd yn teimlo'r un llawenydd. Ofnai eraill y byddai marwolaeth Bin Laden yn ysgogi yn hytrach na digalonni'r terfysgwyr dan ei ddylanwad. Caiff Bin Laden ei weld fel merthyr arwrol yn hytrach nag arweinydd methedig. Yn eu golwg hwy, byddai dienyddiad Bin Laden yn siwr o arwain at gynnydd yn nifer a graddfa gweithredoedd terfysgol. Oni fyddai wedi bod yn ddoethach ei ddal yn garcharor a'i adael mewn cell weddill ei ddyddiau?

Rhaid i mi gyfaddef fod y ddau ymateb hyn wedi gwneud i mi deimlo braidd yn anesmwyth. Methais a theimlo unrhyw fath o lawenydd ym marwolaeth Bin Laden. Roedd rhai yn disgrifio Bin Laden fel 'drygioni pur', ond rydym oll wedi ein creu a lun a delw Duw. Cytunaf yn gryf ag ymateb yr Jessica Dovey ar Facebook pan glywodd y newyddion (geiriau a gamddyfynwyd fel rhai Dr Martin Luther King Jr): "I mourn the loss of thousands of precious lives, but I will not rejoice in the death of one, not even an enemy."

Ond beth am yr holl droseddau erchyll a gyflawnodd, meddech chi? Onid oedd Bin Laden yn haeddu cosb am yr erchyllderau a gyflawnwyd dan ei orchymyn? Oedd, roedd Bin Laden yn haeddu cosb am y troseddau hyn, ond mae gennym ein systemau gweinyddu cyfraith gwladwriaethol a rhyngwladol er mwyn gwneud hynny'n heddychlon. Achos llys, nid y bwled, ddylai Bin Laden fod wedi'i wynebu.

Ond gwyddom fod Bin Laden yn gyfrifol am farwolaeth miloedd o bobl, meddai eraill; onid marwolaeth oedd yr unig gosb a haeddai? Mae'n amlwg fod yr ysfa i ddial yn gymysg a'r dyhead am gyfiawnder yn ymateb nifer o'r bobl a oedd yn llawenhau ym marwolaeth Bin Laden. Fel hyn y dywedir yn y llythyr at y Rhufeiniaid: 'Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: "Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,' medd yr Arglwydd."' (Rhuf 12:9). Rydym ni oll wedi syrthio'n brin o'r hyn y mae Duw yn ei ddymuno gennym, rydym ni oll wedi pechu ac rydym oll yn haeddu barn. Er ein bod ni'n sychedu am gyfiawnder, mae ein meddyliau yn cael eu llywio gan ein cymhellion hunanol ein hunain. Cyfiawnder ar ein telerau ein hunain y byddwn yn ei geisio gan amlaf. Dyna pam y gosodwyd strwythau cyfreithiol yn eu lle ac y mae angen i ni ymddiried ynddynt i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Eto i gyd, rhaid cofio mai Duw yn unig sy'n hollgyfiawn. Fy sicrwydd o hynny a'm diffyg hyder yng ngallu dynion i weithredu gwir gyfiawnder mewn materion o fywyd a marwolaeth yw sail fy ngwrthwynebiad i'r gosb eithaf.

Mae dysgeidiaeth Iesu yn ein herio i edrych ar ein gelynion mewn ffordd newydd. Cofier ei eiriau syml, eglur a digyfaddawd yn y bregeth ar y mynydd: 'Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid.' Y gorchymyn pendant hwn sydd wrth wraidd fy anesmwythyd wrth glywed rhai yn ceisio rhesymu na ddylai Bin Laden fod wedi'i ddienyddio oherwydd y gallai ysgogi terfysgwyr i gyflawni rhagor o erchyllderau. Er fy mod yn rhannu eu pryderon, nid ein diogelwch ein hunain ddylai benderfynu a yw ein gweithredoedd yn gywir a chyfiawn ai peidio. Os ydym i wrando ac ufuddhau i eiriau'r Iesu, cariad ddylai fod flaenaf yn ein hymateb i'n gelynion bob amser. I gwblhau'r dyfyniad o'r llythyr at y Rhufeiniaid: 'Os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.' (Rhuf 12:19-21)

Dafydd TudurDAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-5385485204128633172011-05-01T21:27:00.009+01:002011-05-02T10:47:25.293+01:00Allan o Dlodi: Gwasanaeth Cymorth Cristnogol, 1 Mai 2011

Mae mis Mai yn fis pwysig a phrysur i Gymorth Cristnogol. Rhwng 15-21 Mai, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau ar hyd y lled y wlad i gasglu arian a chodi ymwybyddiaeth o'r gwaith mae'r mudiad yn ei wneud i ddileu tlodi. Mae'n bwysig hefyd ein bod yn cael ein hatgoffa o'n dyletswydd fel Cristnogion i gefnogi'r ymgyrch i ddileu tlodi drwy air, gweithred a gweddi.

Roedd Gwasanaeth Teulu y mis hwn yn defnyddio rhai o'r adnoddau sy'n cael eu paratoi gan Gymorth Cristnogol ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol. Rhoir sylw arbennig eleni i'r gwaith a wneir gan bartneriaid yn Nicaragua. Fel mae'n digwydd, bu Dafydd yn Nicaragua ym Mawrth 2006 i weld rhai o'r prosiectau a ariennir yno gydag arian Cymorth Cristnogol. Yn ogystal a chlywed am yr hyn a welodd Dafydd yn Nicaragua, buom yn gwylio fersiwn Gymraeg o'r fideo uchod sy'n dangos gwaith mudiad Soppexcca yn ardal Jinotega. Buom yn cydadrodd y weddi a baratowyd yn arbennig ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol a rhannodd Dafydd neges oedd yn pwysleisio'r pwysigrwydd o ofyn cwestiynau, ceisio'r atebion yn daer a didwyll, a gweithredu ar hynny. Bydd mwy am y neges yn ymddangos ar y wefan yn fuan.

Beth allwn ni'n ei wneud eleni i geisio dileu tlodi? Os hoffech chi gyfrannu at weithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn ardal Llwyncelyn eleni, anfonwch ebost at capel.llwyncelyn@gmail.com neu anfonwch neges ar Twitter i @CapelLlwyncelyn a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted a phosib.DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-41689293578233509132011-04-29T16:56:00.004+01:002011-05-03T07:33:11.910+01:00Rhyfeddodau'r Bydysawd a'r Cwestiynau MawrErthygl a baratowyd gan Dafydd Tudur ar gyfer Y Tyst.

'Pam ydyn ni yma? O ble ydyn ni'n dod?' Dyna'r cwestiynau a ofynwyd ar ddechrau'r gyfres Wonders of the Universe a fu ar y teledu bob nos Sul yn ddiweddar. Dyma'r 'cwestiynau mwyaf arhosol', medd cyflwynydd y rhaglen, yr Athro Brian Cox, ac y mae'n 'rhan hanfodol o natur ddynol i geisio canfod yr atebion'. Ceisia'r gyfres ateb y cwestiynau hyn drwy roi cyflwyniad cyfareddol i rai o'r damcaniaethau diweddaraf ynghylch ffurfio a datblygiad y bydysawd. Mae'r amcangyfrifon o faint ac oed y bydysawd yn ddigon i wneud i ddyn deimlo'n arswydus o fach a di-nod.

Wrth gynnal sesiynau Alffa sy'n cyflwyno a thrafod sylfaeni'r ffydd Gristnogol, bydd y sgwrs yn aml yn troi at gwestiynau yn ymwneud â'r creu, o fodolaeth deinosoriaid i ddamcaniaeth Darwin am esblygiad y ddynolryw. Rwy'n siwr y bydd cynnwys y rhaglenni diweddar am y bydysawd yn rhoi agwedd newydd i'r un drafodaeth, oherwydd, at ei gilydd, gwelir darganfyddiadau a damcaniaethau gwyddonol fel darnau o dystiolaeth sy'n herio bodolaeth Duw yn ogystal ag awdurdod y Beibl.

Serch hynny, rwyf eto i ddod ar draws darganfyddiad neu ddamcaniaeth gwyddonol sy'n tanseilio fy nghred fod gennym Greawdwr hollalluog sydd ar waith yn ein byd ni heddiw. Herio ein dealltwriaeth ddynol ni o Dduw yn hytrach na gwrthbrofi ei fodolaeth neu awdurdod y Beibl a wnant. Yn hynny o beth, nid gwneud i mi sylweddoli mor fach ydw i wna'r gyfres ar ryfeddodau'r bydysawd, ond, yn hytrach, mor fawr yw Duw.

Beth fyddai goblygiadau bydysawd heb le ynddo i Dduw? Wrth dynnu Duw allan o'r darlun, mae'n ein gadael mewn byd sy'n bodoli drwy ddim mwy na hap a damwain. Byd heb bwrpas nac ystyr iddo, ble mae popeth yn gyfnewidiol a ble nad oes gwerth arhosol i unrhyw beth. Heb drafodaeth ar 'ystyr' bywyd, siomedig o anghyflawn fu ateb Wonders of the Universe i'r cwestiwn 'Pam ydyn ni yma?'.

Nid yw'r Beibl yn cynnwys yr ateb i bopeth, ond mae'n cynnwys atebion sy'n berthnasol i bawb a phopeth, rhai na all ymchwil gwyddonol eu profi na'u gwrthbrofi. Yn wir, nid dibynnu ar ein dealltwriaeth ni yn unig fyddwn wrth ei ddarllen, ond dibynnu ar arweiniad yr Ysbryd Glân i'n cynorthwyo i ddeall rhywbeth sydd mor aruthrol fawr fel na allai neb ohonom ei ddirnad yn naturiol. Rhaid dod ato felly yn weddigar bob amser, â meddwl a chalon agored, ac â'r ysfa ddofn honno nid i wybod y cyfan ond i geisio'r atebion i'r cwestiynau sydd wir yn cyfri.

Dafydd TudurDAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-90526978487710952032011-04-26T07:46:00.002+01:002011-04-26T08:00:04.659+01:00'Dewch, mentrwn': Neges agoriadol Llanw 11
Dechreuodd Gwyl Gristnogol Llanw 11 gyda neges berthnasol a chref oddi wrth y Parchg Hywel Edwards o Fae Colwyn: 'Dewch, mentrwn'!

Mae Cristnogion wedi teithio o bob rhan o Gymru i Gei Newydd ar gyfer Gwyl Gristnogol Llanw 11. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol neithiwr yn Neuadd Goffa Cei ac roedd dros 150 yno. Croesawodd Meirion Morris, brodor o Dalgarreg, y dorf gan bwysleisio ein bod yn dod at ein gilydd ar ol penwythnos y Pasg i ddathlu buddugoliaeth Iesu Grist ac i ddyrchafu ei enw. Yna cawsom gyfnod o ganu mawl - cyfuniad o ganeuon modern ac emynau cyfarwydd - wedi'i arwain gan Owain Edwards a'r band.

Yn seiliedig ar 2 Brenhinoedd 6-7, roedd neges Hywel Edwards yn cymharu ein sefyllfa bresennol gyda'r ddinas dan warchae: y Syriaid o'n blaenau a thrigolion y ddinas yn newynu. Gall yr amgylchiadau hyn arwain at gyfyngder ac anobaith, a gydag anobaith mae'n calonnau'n caledu i'r hyn sydd gan Dduw i'w ddweud wrthym. Ai dyma ein ble rydyn ni erbyn hyn? Os felly, dylem edifarhau ac ailddarganfod ein hyder a sicrwydd yng Nghair Duw.

Ydyn ni'n credu mewn gwirionedd fod y fuddugoliaeth eisoes wedi'i hennill a bod uffern wedi'i threchu? 'Pam aros yma nes inni farw?' gofynnodd y gwahanglwyfion. Yr un yw'r Iesu heddiw ag y bu erioed, a thrwy weithredu does gennym ddim i'w golli a phopeth i'w ennill. Mae'r ateb yn syml: 'Dewch, mentrwn.'DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-742201871504381127.post-14392280950549791682011-04-24T16:03:00.007+01:002011-04-24T16:12:38.137+01:00Atgyfodiad Iesu (Luc 24:1-9)1 Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi eu paratoi.

2 Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei rholio i ffwrdd, 3 a phan aethon nhw i mewn i'r bedd doedd y corff ddim yno!

4 Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl.

5 Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, "Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw? 6 Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? 7 Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw."

8 A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi ei ddweud. 9 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall.

Darllen mwy

DAFYDD TUDURhttp://www.blogger.com/profile/04445309741140293968noreply@blogger.com0