"Faint oedd yn y capel heddiw?"

Prin y byddai un ohonom yn dweud nad ydym yn dymuno gweld mwy o bobl yn troi i mewn i gydaddoli â ni ar y Sul. Peth digalon iawn yw gweld capel a allai ddal cannoedd yn cael ei fynychu gan lond llaw o ffyddloniaid a braf fyddai cael y wefr o fod mewn oedfa arbennig neu ddigwyddiad fel Diwrnod i’r Brenin bob wythnos.

Ond tybed a ydym ni’n rhoi gormod o sylw i niferoedd wrth drafod datblygiad eglwysi, a hynny ar draul y pethau sylfaenol? Rwy’n cofio un tro pan oeddwn mewn dosbarth Ysgol Sul a’r gweinidog yn cyfeirio yn fras at nifer y bobl oedd yn y capel y bore Sul blaenorol, ac un o’m cyfoedion yn ychwanegu’r union rif ar unwaith. Bu raid iddo gyfaddef ei fod wedi cyfri faint oedd yn y gynulleidfa yn ystod y bregeth!

CC BY Kinchan1 (Flickr)
Nid gweld faint a allwn ei ddenu i’r capel ar y Sul yw ein prif amcan, ond ufuddhau i Dduw fel unigolion ac fel eglwysi ymhob agwedd o fywyd. Dywedodd Iesu, ‘Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi’ (Ioan 4:34). Os bydd ein hymroddiad i’r gwaith yn dibynnu ar weld y canlyniadau, yna mae wedi’i wreiddio yn y man anghywir a bydd perygl i ni osod disgwyliadau afresymol arnom ein hunain ac ar eraill. Gyda chyflawni ewyllys Duw yn brif amcan, fodd bynnag, cawn ein hatgoffa yn barhaus mai sail ein gobaith a ffynhonnell ein nerth a’n dyfalbarhad, sef y gras a chariad y mae eisoes wedi’i ddangos tuag atom ym mherson Iesu Grist.

‘Felly, fy nghyfeillion annwyl,’ meddai Paul, ‘byddwch yn gadarn a disgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer’ (1 Cor 15:58). Wrth i ni lafurio, boed i ni sicrhau felly bod ei fod wedi’i wreiddio ‘yn yr Arglwydd’, ac ymddiriedwn yn Nuw i weithio ynom a thrwom i droi ein tystiolaeth o wirionedd yr efengyl yn ffydd yng nghalonnau eraill, gan dderbyn efallai na welwn ni fyth yr holl ffyrdd rhyfeddol y bydd yn gwneud hynny.

Dafydd Tudur

No comments:

Post a Comment