'Super-injunctions': Gwaharddebau a'r Gwaredwr

Nid wyf yn un sy'n dilyn hynt a helyntion selebs, ond bu un stori yn y wasg yn ystod y mis diwethaf y methais ei hanwybyddu. Y stori sydd gennyf dan sylw yw'r un am y pel-droediwr a geisiodd ddefnyddio 'super-injunction' i rwystro ei feistres rhag datgelu ei gamymddygiad i'r byd. Wrth gwrs, bu'r ymgais yn aflwyddianus ac mae'r holl fater wedi cael llawer mwy o sylw nag y byddai'r pel-droediwr wedi'i ddychmygu pan geisiodd osod y waharddeb yn y lle cyntaf.

Er mor barod y byddwn i bwyntio bys ac anghymeradwyo pan welwn eraill yn camymddwyn, go brin y gall unrhyw un ohonom ddweud nad ydym wedi erioed wedi gweithredu yn ddifeddwl neu'n ddiymatal ac yna orfod ceisio rheoli'r canlyniadau. Byddwn yn aml yn ceisio cyfiawnhau ein gweithredoedd drwy roi'r bai ar rhywun arall neu ddadlau nad oedd dewis gennym dan yr amgylchiadau.

Wrth gwrs, does dim son am 'super-injunctions' yn y Beibl. A dweud y gwir, mae'r Beibl yn dweud wrthym fod Duw yn gweld ein holl weithredoedd, hyd yn oed y rhai hynny'n sy'n guddiedig oddi wrth ddynion eraill. 'Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gwêl ei holl gamau.' medd Elihu wrth Job, 'Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio' (Job 34:21-22). Mae'r Salmydd hefyd yn canu am adnabyddiaeth Duw ohonom yn Salm 139 a dywed Iesu fod 'pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo' (Mathew 10:30).

Ar y naill law, gallwn gymryd cysur mawr o wybod fod Duw yn ein hadabod cystal. Ar y llaw arall, ni allwn ond cywilyddio wrth sylweddoli nad oes unrhyw un o'm meddyliau a gweithredoedd wedi'u cuddio rhagddo. Ni all yr un ohonom ddweud nad ydym erioed wedi pechu. Mae pawb ohonom yn euog o dorri cyfraith Duw (Iago 2:10) ac yr ydym oll wedi 'crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun' (Eseia 53:6).

Y diffyg hwn ymhob un ohonom, a'r ffaith ein bod ni oll yn atebol am ein pechodau, sy'n rhoi i bob un ohonom yr angen am Waredwr. Dangosodd Duw ddyfnder ei gariad tuag atom drwy ymateb i'n hangen ac rhoi ei Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16). Nid i guddio ein beiau rhag eraill y cafodd Iesu ei anfon i'n byd, ond i wynebu'r gosb amdanynt yn ein lle. Ac nid er mwyn gwarchod rhyw lun o integriti gerbron dynion eraill y gwnaeth hynny ond i'n gwisgo a chyfiawnder a sancteiddrwydd gerbron Duw. Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd oddi wrth ein camweddau, mae'r Iesu yn gofyn i ni syrthio ar ein bai, troi cefn ar bechod, a'i ddilyn Ef. Na, does dim son am 'super-inunction' yn y Beibl, ond pwy sydd angen gwaharddeb pan fo gennym Waredwr yn Iesu Grist?

Dafydd Tudur

No comments:

Post a Comment