O ddrws i ddrws: cyfanswm yr arian a godwyd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol

Roedd yr arian a gasglwyd wrth fynd o ddrws i ddrws yn Llwyncelyn a Derwen Gam yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn ddigon i brynu:

- Pwmp i gludo dwr er mwyn galluogi teuluoedd i dyfu cnydau mewn ardaloedd sych (£59)
- Pedwar mis o ysgol i blentyn yn y Philippines (£36)
- Hadau i ddau deulu yn Zimbabwe a fyddai'n sicrhau bwyd iddynt pan ddaw'r cynhaeaf nesaf (£22)
- Gafr i roi llaeth, caws a gwlan i deulu yn Afghanistan (£25)

Daeth cyfanswm y casgliad i £142.21.

Diolch i'r rhai hynny fu'n cynorthwyo gyda'r casglu ac i bawb yn Llwyncelyn a'r Dderwen Gam am eu cyfraniadau.

No comments:

Post a Comment