Perfformio stori Jona

Stori epig Jona oedd testun y Gwasanaeth Teulu yng Nghapel Llwyncelyn ddechrau mis Gorffennaf. Roedd criw y Clwb Sul yn cyflwyno gwaith celf sy'n dangos tair golygfa o'r stori drwy berfformio'r hanes yn llawn yn y capel. Cafwyd sawl golygfa gofiadwy yn y ddrama, gan gynnwys Jona redeg i ffwrdd drwy ddrws y capel, y cor mawr yn troi'n fwrdd llong a'r morwyr yn cael eu taflu o ochr i ochr yn y storm, a'r pryfyn (aur) yn difa'r planhigyn a roddodd Duw yn gysgod i Jona rhag yr haul.

Wedi hynny, rhoddodd Dafydd esboniad cryno o'r hanes gan ddangos ei berthnasedd i ni heddiw. Mae gan Dduw bwrpas ar gyfer pob un ohonom, ond a ydym ni fel Jona yn rhedeg i ffwrdd? Mae Duw gyda ni bob amser, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anufudd ac yn rhedeg i ffwrdd fel Jona yn ffoi i borthladd Joppa, neu'n anobeithio fel Jona ar fwrdd y llong yn y storm, neu yn ein hawr dduaf, fel Jona ym mol y pysgodyn. Ac, yn drydydd, mae Duw yn gofyn ein bod ni nid yn unig yn gwneud yr hyn sy'n iawn, ond yn ildio yn llwyr i'w ewyllys. Hyd yn oed ar ol cyflwyno'r neges i bobl Ninefe, nid oedd Jona wedi gweld beth oedd hynny'n ei olygu.

Roedd tua 50 o oedolion a phlant yn y gwasanaeth ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd prosiect nesaf y Clwb Sul.

No comments:

Post a Comment