I Batagonia! (Adroddiad, Myfyrdod a Gweddi)

Adroddiad


Dathlu Dydd Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry ymfudo i Batagonia!



Cynhaliwyd dathliad Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yng nghapel a festri Llwyncelyn ar 6 Mawrth 2015. 

Arweinwyd y noson gan Arwel Fronwen a chafwyd cyflwyniad byr ar hanes sefydlu’r Wladfa gan Dafydd Tudur cyn symud ymlaen at yr uchafbwynt, sef y wledd o ddoniau amrywiol disgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron. Cawsom ddiolchiadau ac anerchiad gan Catrin Cwmsaeson ac aeth pawb i’r festri, lle roedd llond gwlad o fara, caws, jam, pice bach a bara brith yn eu disgwyl. 

Roedd yr arian a gasglwyd ar y drws yn mynd tuag at daith Catrin i Batagonia gyda’r Urdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bu’n noson arbennig o lwyddiannus a chofiadwy dros ben a diolch i bawb a gyfrannodd ati ac a’i cefnogodd.


Myfyrdod

Gobaith o Fywyd Gwell


Wrth glywed yr hanes am sefydlu’r Wladfa, mae’n anodd peidio gweld y cysylltiad rhwng y sefyllfa a wynebai nifer o Gymry yn y dyddiau hynny a’r sefyllfa yng nghefn gwlad heddiw.

Roedd rhent a’r degwm yn gwasgu ar deuluoedd yng Ngymru’r 19eg ganrif ac roedd prinder cartrefi neu dir i bobl ifanc. Doedd dim dewis i nifer fawr ohonynt ond mynd dros y ffin i Loegr, neu edrych ymhellach tuag at America neu Awstralia, i chwilio am fywyd gwell. Ac fel y gwelodd Michael D. Jones, cost hynny fel arfer oedd bod y Cymry a’u disgynyddion yn defnyddio llai ar y Gymraeg ac yn colli pob arwydd o’u tras Cymreig.

Gyda Gwladfa Gymreig, roedd gobaith y byddai’r ymfudwyr yn cael y gorau o’r ddau fyd: y gobaith o ryddid o gaethiwed economaidd ac hefyd y gobaith o fyw mewn cymdeithas oedd wedi ei ffurfio ar sail iaith a diwylliant y Cymry. Roedd yn brosiect i greu dim llai na Chymru ‘newydd’, a honno’n Gymru well.



Gwlad yr Addewid


Yn y Beibl, cawn hanes Duw yn defnyddio Moses ac yna Joshua i arwain cenedl Israel o gaethiwed yr Aifft i wlad yr addewid, ble roeddent i ddechrau bywyd newydd a gwell. Mae’r hanes hwn - un sy’n cynnwys digwyddiadau fel y berth yn llosgi, y deg pla, agor y Mor Coch, a chwymp Jericho - yn un o hanesion mwyaf epig a chyfarwydd yr Hen Destament.

Ond pwyntio mae’r hanes hwnnw at ddigwyddiadau mwy sylfaenol ac arwyddocaol yn hanes y byd - hanes sydd a goblygiadau enfawr i’r ddynoliaeth gyfan. Dyma’r hanes am Dduw yn arwain ei bobl o dywyllwch a chaethiwed eu pechod i oleuni a rhyddid y bywyd tragwyddol. Un o ryfeddodau mawr yr hanes hwn yw ei fod yn digwydd mewn ffordd sy’n cyflawni proffwydoliaethau’r Hen Destament, ac eto mor annisgwyl i’r bobl a oedd yn seilio’u diwylliant a’u cred ar yr ysgrythurau hynny. Mae’n ei wneud trwy’r un a alwyd yn Iesu.

Mae grwp ohonom wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol yn Yr Hen Siop ers yr hydref i astudio bywyd Iesu fel mae wedi’i gofnodi. Rhai o’r pethau sydd wedi fy nharo yn y cyfarfodydd hyn yw’r ffordd mae nhw wedi herio ein rhagdybiaethau (assumptions) a rhagfarnau (prejudices) ynglyn â Iesu ac wedi dangos i ni sylwedd a chyfoeth y Beibl. Ymhob peth - ei eiriau, ei weithredoedd a hyd yn oed ei enw (sy’n tarddu o’r hebraeg Yeshua, sy’n golygu ‘Duw yn achub’) - roedd Iesu yn dangos mai ef yw’r drws i fywyd tragwyddol (Ioan 10:9).


Enw arall a roed i Iesu, yn ôl hanes y geni, yw Immanuel ‘hynny yw, o’i gyfieithu “Y mae Duw gyda ni”’ (Mathew 1:23). A dyma ryfeddod arall yr hanes am Dduw yn arwain ei bobl i wlad yr addewid, sef ei fod ef wedi dod atom ni ym mherson Iesu Grist. Nid rhywbeth sydd ymhell i ffwrdd - rhywbeth y mae’n rhaid i ni aros amdano tan y bydd ein bywyd ar y ddaear hon yn dod i ben - yw ‘bywyd tragwyddol’. Trwy ddod i adnabod yr Iesu fel yr un sydd wedi dod i’n hachub, cawn wybod beth yw ‘bywyd tragwyddol’ yn y bywyd hwn yn ogystal a’r nesaf (Ioan 17:3). 


Cadw’r addewid


Rwyf wedi clywed gwahanol bobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i hanes y Wladfa. Mae rhai yn cael eu llenwi ag edmygedd tuag at yr ymfudwyr ar sail eu dyfalbarhad er gwaethaf pob caledi a dioddefaint; mae eraill yn feirniadol iawn o’r arweinyddion ac yn eu cyhuddo o gamarwain yr ymfudwyr i ddarn o dir a oedd, ar ol gadael eu cartrefi a theithio miloedd o filltiroedd, yn anaddas ar eu cyfer. Maent yn cyhuddo’r arweinyddion o dorri’r addewid oedd yn sylfaenol i’r fenter.

Hyd yn oed i’r Cristion gyda’r argyhoeddadau dyfnaf, bydd adegau mewn bywyd pan nad yw ‘bywyd tragwyddol’ yn teimlo fel petai gyda ni yn barod. Rydym yn byw mewn byd ble mae caledi a dioddefaint yn realiti a bydd yn rhan o brofiad pob un ohonom yn ystod ein hoes. Rwyf wedi clywed am rai sydd wedi pellhau oddi wrth Dduw ar adegau felly. Gall deimlo bod Duw yn absennol, wedi torri ei addewid ac wedi ein siomi.

Ond neges y Beibl yw bod Duw yn agos atom ymhob sefyllfa, ac mae’n dymuno i ni wybod hynny, yn enwedig pan mae pethau yn anodd arnom (Salm 34:18). Mae am i ni wybod ei fod yn Dduw ffyddlon sy'n cadw ei addewidion (Deut 7:9), er mor anodd y gall hynny fod o bryd i’w gilydd, ac ymddiried ynddo i roi i ni bopeth sydd ei angen arnom i wynebu unrhyw beth. Y mae Duw gyda ni ac y mae Duw yn ein hachub. 

Gweddi

Diolchwn am y dathliad gafodd ei gynnal yn y Capel a'r festri - am gael dathlu doniau ieuenctid yr ardal, ein hiaith a'n diwylliant, yn ogystal a hanes rhyfeddol y Wladfa. Diolch hefyd ein bod wedi mwynhau cwmni ein gilydd a gofynnwn am fendith Duw ar Catrin a Carwyn pan fyddant yn teithio i Batagonia yn ddiweddarach eleni. 

Diolchwn bod Duw yn gweld ein anghenion ac yn estyn allan atom bob un, beth bynnag ein sefyllfa. Gweddiwn am gymorth i ymddiried yn Nuw ac i bwyso ar ei addewidion bob amser gan gofio’r cariad mae wedi ei ddangos tuag atom yn Iesu Grist. Amen.


Llenwi’r bwlch yng nghymunedau cefn gwlad

Un profiad sy’n gyffredin ar draws cefn gwlad Cymru yn y blynyddoedd diweddar yw cau’r adeiladau a fu unwaith yn ganolfannau i fywyd cymunedol.

Rhwng 2007 a 2009, caewyd 157 o swyddfeydd post ar draws Cymru fel rhan o’r Rhaglen Newid Rhwydwaith Swyddfeydd Post. Yr un fu tynged nifer o siopau pentref, nid oherwydd unrhyw benderfyniad oddi uchod, ond oherwydd methiant i gystadlu a phrisiau gostyngol yr archfarchnadoedd mawrion. Rhoddwyd cryn sylw hefyd i’r bygythiad i ysgolion gwledig, yn arbennig drwy ymgyrch aflwyddianus i gadw drysau Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala, ar agor.

Canlyniad y datblygiadau hyn yw pellhau gwasanaethau pwysig fel y post a’r siop ac adleoli (ac weithiau gwasgaru) ieuenctid yr ardal. Mae’n lleihau cyfleon ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a phontio cenedlaethau, sydd yn eu tro yn cael effaith andwyol ar y gymuned ac yn gwneud i rai o’i haelodau mwyaf bregus deimlo’n ynysig ac yn unig.

Er mor drist yw gweld yr adeiladau hyn yn cau eu drysau, tybed a yw’r bwlch a adewir ar ol ganddynt yn un y gall yr eglwysi ei lenwi? Yn wahanol i’r dafarn leol, nid yw parhad eglwysi yn ddibynnol ar incwm; i’r gwrthwyneb, mae nifer o eglwysi yn gymharol gysurus yn ariannol. Mae gan nifer o gymunedau eu neuaddau pentref, ond er y cynhelir gweithgareddau ynddynt yn rheolaidd, adeiladau digon oeraidd a digroeso ydynt yn aml iawn.

Gydag ychydig o weledigaeth, rhywfaint o fuddsoddiad ariannol a chnewyllyn o wirfoddolwyr, gallai eglwys droi ei hadeiladau yn ofodau croesawgar, cysurus a chartrefol a’u troi yn ganolfannau galw heibio (‘drop-in centres’) yn ystod yr wythnos. Gellid, er enghraifft, rhoi seddi cyfforddus i eistedd arnynt i sgwrsio. Gellid gosod rhwydwaith wi-fi i alluogi ymwelwyr i bori’r We neu weithio. Gellid cynnig rhywbeth i ddifyrru ieuenctid yr ardal gyda’r nos (bwrdd pwl neu offer tenis bwrdd). Trwy drefnu rota, gallai aelodau’r eglwys fod yno ar wahanol nosweithiau o’r wythnos i roi croeso a gwasanaethu’r ymwelwyr.

Nid wyf yn meddwl am funud y buasai hyn yn hawdd. Buasai’n golygu goresgyn ein sentimentaliaeth ynghylch ein hadeiladau a’n nerfusrwydd ynghylch gweithgareddau estyn allan. I aelodau’r gymuned, tybiaf y bydd yn gam mawr i nifer ohonynt osod troed ar dir y capel. Byddai angen gweddio’n gyson dros y gwaith a gofyn am arweiniad, dyfalbarhad, amynedd, doethineb a chariad at ein cymydog. Buasai angen i ni gofio hefyd bwysigrwydd yr Ysbryd Glan i’r gwaith a’i ganlyniadau.

A thrwy ddangos consyrn gwirioneddol dros anghenion ein cymunedau a pharodrwydd i’w diwallu, fe dyfa’r math o gyfeillgarwch ac ymddiriedaeth sydd mor werthfawr mewn unrhyw gymdeithas ac, yn hwyr neu’n hwyrach, fe ddaw cyfle i son am weithgareddau eraill yr eglwys ac estyn gwahoddiad iddynt. A thrwy geisio llenwi’r bwlch cymdeithasol sydd wedi datblygu yng nghynifer o gymunedau cefn gwlad Cymru, yr wyf yn ffyddiog y daw cyfle hefyd i esbonio’r modd y mae Duw wedi llenwi’r bwlch llawer mwy yn ein bywyd drwy’r hyn a wnaeth Iesu drosom.

DT (Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tyst, Mai 2013)

Cyfraniad cyntaf Capel Llwyncelyn i'r Banc Bwyd lleol yn cyrraedd Aberteifi


Casglu bwyd i Fanc Bwyd Aberteifi

Ar Sul cyntaf pob mis o hyn ymlaen, byddwn yn casglu eitemau bwyd fydd yn cael eu cyfrannu gan aelodau a chyfeillion Eglwys Annibynnol Llwyncelyn i'w dosbarthu ymhlith yr anghenus yng ngorllewin Cymru.

Mae'n anodd credu bod galw am elusen fel Banciau Bwyd y Trussell Trust yma yng ngwledydd Prydain, ond mae'r galw amdanynt wedi bod yn syfrdanol gyda bron i filiwn o bobl yn derbyn tocynau bwyd brys yn 2013-14. Yn Aberteifi y mae'r Banc Bwyd agosaf i ni a cheir rhagor o wybodaeth amdano ac am yr elusen yn gyffredinol ar ei wefan.

Gofynnir i gefnogwyr gyfrannu rhai bwydydd penodol i'r Banc Bwyd, sef:

Llaeth (UHT neu bowdr)
Siwgr (500g)
Sudd ffrwythau (Carton)
Cawl (Soup)
Saws pasta
Sponge pudding (mewn tun)
Tomatos (mewn tun)
Grawnfwydydd (cereals)
Pwdin reis (mewn tun)
Bagiau te / coffi instant
Tato mash instant
Reis/pasta
Cig/pysgod mewn tun
Llysiau mewn tun
Ffrwythau mewn tun
Jam
Bisgedi neu snack bars

Os hoffech chi gyfrannu rhai o'r eitemau hyn, dewch â hwy i Lwyncelyn am 2pm ar Sul cyntaf pob mis. Byddwn hefyd yn y festri rhwng tua 3 a 3.30.

Grwp astudiaeth i ddechrau yn yr hydref

'Y mae dy air y llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr.' (Salm 119:105)

Pan ddaw'r hydref, bydd aelodau eglwysi Annibynnol Cei Newydd ac Aberaeron yn dod ynghyd i sefydlu dosbarth Beiblaidd. Ein hamcan fydd astudio'r Beibl gyda'n gilydd mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Byddwn yn dechrau gyda 'Marc i Bawb', cyfres o astudiaethau yn seiliedig ar efengyl Marc gan N. T. Wright ac yn defnyddio'r fersiwn beibl.net.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Yr Hen Siop, Derwen Gam, am 8pm nos Fawrth, 7 Hydref a bydd croeso cynnes i bawb!

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu trwy e-bost capel.llwyncelyn@gmail.com neu'r cyfrif Twitter @CapelLlwyncelyn.