'Byd yr Aderyn Bach'

Ar nos Sul, 12 Mehefin, daeth Cwmni'r Morlan i Neuadd Llwyncelyn i berfformio 'Byd yr Aderyn Bach', cyflwyniad i hanes bywyd a gwaith Waldo Williams. Bu'r cyflwyniad yn gyfle i ddysgu am fywyd un o feirdd mwyaf Cymru'r ugeinfed ganrif, i fwynhau ei farddoniaeth, i gael ein diddanu gan ei hiwmor a'n hybrydoli gan ei egwyddorion dyfnion. Yno hefyd oedd Cor Cardi-gan yn canu Y Tangnefeddwyr a threfnianau o Weddi'r Arglwydd ac O Nefol Addfwyn Oen.

Rai wythnosau yn ôl penderfynodd Eglwysi Annibynnol Cylch Aberaeron gynnal y digwyddiad hwn ar Sul y Gymanfa Bwnc. Bu'n llwyddiant ysgubol: roedd dros gant o bobl yn y gynulleidfa a llwyddwyd i godi dros £400 tuag at Gymorth Cristnogol.

Mae Cwmni'r Morlan yn croesawu gwahoddiadau i berfformio'r cyflwyniad. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan y Morlan, Aberystwyth.

No comments:

Post a Comment