
Yn Llwyncelyn, rydyn ni eisoes wedi cynnal gwasanaeth Cymorth Cristnogol ar Sul cyntaf mis Mai. Roedd yn gyfle i glywed sut mae pobl Nicaragua wedi elwa o gefnogaeth Cymorth Cristnogol, i roi diolch am y cynnydd a wnaed eisoes ac i weddio dros y waith y presennol a'r dyfodol.
Byddwn hefyd yn mynd o ddrws i ddrws ym mhentrefi Llwyncelyn a Derwen Gam yn dosbarthu a chasglu amlenni yn gwahodd cyfraniadau i'r mudiad.
No comments:
Post a Comment