Allan o Dlodi: Gwasanaeth Cymorth Cristnogol, 1 Mai 2011



Mae mis Mai yn fis pwysig a phrysur i Gymorth Cristnogol. Rhwng 15-21 Mai, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau ar hyd y lled y wlad i gasglu arian a chodi ymwybyddiaeth o'r gwaith mae'r mudiad yn ei wneud i ddileu tlodi. Mae'n bwysig hefyd ein bod yn cael ein hatgoffa o'n dyletswydd fel Cristnogion i gefnogi'r ymgyrch i ddileu tlodi drwy air, gweithred a gweddi.

Roedd Gwasanaeth Teulu y mis hwn yn defnyddio rhai o'r adnoddau sy'n cael eu paratoi gan Gymorth Cristnogol ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol. Rhoir sylw arbennig eleni i'r gwaith a wneir gan bartneriaid yn Nicaragua. Fel mae'n digwydd, bu Dafydd yn Nicaragua ym Mawrth 2006 i weld rhai o'r prosiectau a ariennir yno gydag arian Cymorth Cristnogol. Yn ogystal a chlywed am yr hyn a welodd Dafydd yn Nicaragua, buom yn gwylio fersiwn Gymraeg o'r fideo uchod sy'n dangos gwaith mudiad Soppexcca yn ardal Jinotega. Buom yn cydadrodd y weddi a baratowyd yn arbennig ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol a rhannodd Dafydd neges oedd yn pwysleisio'r pwysigrwydd o ofyn cwestiynau, ceisio'r atebion yn daer a didwyll, a gweithredu ar hynny. Bydd mwy am y neges yn ymddangos ar y wefan yn fuan.

Beth allwn ni'n ei wneud eleni i geisio dileu tlodi? Os hoffech chi gyfrannu at weithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn ardal Llwyncelyn eleni, anfonwch ebost at capel.llwyncelyn@gmail.com neu anfonwch neges ar Twitter i @CapelLlwyncelyn a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted a phosib.

No comments:

Post a Comment