Cerddwn ymlaen! Taith Gerdded Sul y Pasg

Daeth dros 50 o bobl at ei gilydd y tu allan i Gapel Llwyncelyn ar fore Sul y Pasg i dreulio'r bore yn cydgerdded i Lanerchaeron. Roedd y daith wedi'i threfnu gan Glwb Sul y Fro ac roedd Clwb Cerddwyr y Dderwen Gam รข ni..

Dechreuodd Dafydd drwy groesawu pawb a'u hatgoffa o bwysigrwydd Sul y Pasg i'r ffydd Gristnogol, y diwrnod y dathlwn fod yr Iesu wedi atgyfodi. Yn wir, cymaint yw pwysigrwydd yr Atgyfodiad fel bod y Beibl, yn y llythyr cyntaf at y Corinthiaid, yn dweud: 'Os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chi' (1 Corinthiaid 15:14). Mae'r Atgyfodiad yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei gredu! Darllenodd pedair o ferched y Clwb Sul yr hanes i ni o efengyl Luc ac yna offrymwyd gweddi yn diolch am gariad Duw tuag atom, am yrru Iesu Grist i farw ar y groes, fel bod pob un sy'n credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol yn y nefoedd.

Gyda thywydd cystal ag y gallem fod wedi gobeithio amdano, arweiniodd Mair Rees y grwp i fyny heibio i fferm Nantgwynfynydd draw at gyffordd ger Celaeron. Troesom yn ol am y Dderwen Gam a throi i'r chwith yn fuan wedyn ac yna cerdded i lawr drwy pentref Neuaddlwyd, heibio i'r winllan ac ar draws y ffordd a chaeau Llanerchaeron.

Cawsom bicnic ger y caffi ac yna aeth y plant a rhai o'r oedolion ar helfa wyau Pasg oedd yn mynd a hwy o gwmpas y safle ac i mewn i'r ty hynafol.

Cawsom ddiwrnod hyfryd a bu'n gyfle gwych i bawb fwynhau cwmni ein gilydd ar ddiwrnod mor bwysig.

No comments:

Post a Comment