Atgyfodiad Iesu (Luc 24:1-9)

1 Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi eu paratoi.

2
Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei rholio i ffwrdd, 3 a phan aethon nhw i mewn i'r bedd doedd y corff ddim yno!

4
Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl.

5
Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, "Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw? 6 Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? 7 Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw."

8
A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi ei ddweud. 9 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall.

No comments:

Post a Comment