Ar fore Sul y Pasg bydd criw o bob oed yn cyfarfod y tu allan i Gapel Llwyncelyn ac yn cydgerdded i lawr i Lanerchaeron.
Bydd y daith sydd wedi'i threfnu gan Glwb Sul y Fro yn gyfle gwych i ni dreulio bore yng nghwmni ein gilydd ar y Sul pwysig hwn yn y calendr Cristnogol. Mae'r plant wedi bod yn hel noddwyr a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at brynu dodrefn newydd i'r festri. Bydd Clwb Cerddwyr y Dderwen Gam hefyd yn ymuno รข ni.
Bydd angen talu am fynediad i Lanerchaeron a chymryd rhan yn y gweithgareddau sydd wedi'u trefnu yno. Bydd mynediad yn £6.10 i oedolion, ond bydd 2 yn mynd i mewn am bris 1 (felly £3.05 yr un), a bydd plant yn cael mynediad am ddim. Os hoffech chi gymryd rhan yn yr helfa wyau Pasg, bydd hynny'n £1 i blant a £1.50 i oedolion. Hoffem ddiolch i Lanerchaeron am gefnogi'r daith drwy roi gostyngiadau mor hael.
Edrychwn ymlaen at y daith felly a gobeithiwn eich gweld yno!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment