Rhyfeddodau'r Bydysawd a'r Cwestiynau Mawr

Erthygl a baratowyd gan Dafydd Tudur ar gyfer Y Tyst.

'Pam ydyn ni yma? O ble ydyn ni'n dod?' Dyna'r cwestiynau a ofynwyd ar ddechrau'r gyfres Wonders of the Universe a fu ar y teledu bob nos Sul yn ddiweddar. Dyma'r 'cwestiynau mwyaf arhosol', medd cyflwynydd y rhaglen, yr Athro Brian Cox, ac y mae'n 'rhan hanfodol o natur ddynol i geisio canfod yr atebion'. Ceisia'r gyfres ateb y cwestiynau hyn drwy roi cyflwyniad cyfareddol i rai o'r damcaniaethau diweddaraf ynghylch ffurfio a datblygiad y bydysawd. Mae'r amcangyfrifon o faint ac oed y bydysawd yn ddigon i wneud i ddyn deimlo'n arswydus o fach a di-nod.

Wrth gynnal sesiynau Alffa sy'n cyflwyno a thrafod sylfaeni'r ffydd Gristnogol, bydd y sgwrs yn aml yn troi at gwestiynau yn ymwneud â'r creu, o fodolaeth deinosoriaid i ddamcaniaeth Darwin am esblygiad y ddynolryw. Rwy'n siwr y bydd cynnwys y rhaglenni diweddar am y bydysawd yn rhoi agwedd newydd i'r un drafodaeth, oherwydd, at ei gilydd, gwelir darganfyddiadau a damcaniaethau gwyddonol fel darnau o dystiolaeth sy'n herio bodolaeth Duw yn ogystal ag awdurdod y Beibl.

Serch hynny, rwyf eto i ddod ar draws darganfyddiad neu ddamcaniaeth gwyddonol sy'n tanseilio fy nghred fod gennym Greawdwr hollalluog sydd ar waith yn ein byd ni heddiw. Herio ein dealltwriaeth ddynol ni o Dduw yn hytrach na gwrthbrofi ei fodolaeth neu awdurdod y Beibl a wnant. Yn hynny o beth, nid gwneud i mi sylweddoli mor fach ydw i wna'r gyfres ar ryfeddodau'r bydysawd, ond, yn hytrach, mor fawr yw Duw.

Beth fyddai goblygiadau bydysawd heb le ynddo i Dduw? Wrth dynnu Duw allan o'r darlun, mae'n ein gadael mewn byd sy'n bodoli drwy ddim mwy na hap a damwain. Byd heb bwrpas nac ystyr iddo, ble mae popeth yn gyfnewidiol a ble nad oes gwerth arhosol i unrhyw beth. Heb drafodaeth ar 'ystyr' bywyd, siomedig o anghyflawn fu ateb Wonders of the Universe i'r cwestiwn 'Pam ydyn ni yma?'.

Nid yw'r Beibl yn cynnwys yr ateb i bopeth, ond mae'n cynnwys atebion sy'n berthnasol i bawb a phopeth, rhai na all ymchwil gwyddonol eu profi na'u gwrthbrofi. Yn wir, nid dibynnu ar ein dealltwriaeth ni yn unig fyddwn wrth ei ddarllen, ond dibynnu ar arweiniad yr Ysbryd Glân i'n cynorthwyo i ddeall rhywbeth sydd mor aruthrol fawr fel na allai neb ohonom ei ddirnad yn naturiol. Rhaid dod ato felly yn weddigar bob amser, â meddwl a chalon agored, ac â'r ysfa ddofn honno nid i wybod y cyfan ond i geisio'r atebion i'r cwestiynau sydd wir yn cyfri.



Dafydd Tudur

No comments:

Post a Comment