'Dewch, mentrwn': Neges agoriadol Llanw 11


Dechreuodd Gwyl Gristnogol Llanw 11 gyda neges berthnasol a chref oddi wrth y Parchg Hywel Edwards o Fae Colwyn: 'Dewch, mentrwn'!

Mae Cristnogion wedi teithio o bob rhan o Gymru i Gei Newydd ar gyfer Gwyl Gristnogol Llanw 11. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol neithiwr yn Neuadd Goffa Cei ac roedd dros 150 yno. Croesawodd Meirion Morris, brodor o Dalgarreg, y dorf gan bwysleisio ein bod yn dod at ein gilydd ar ol penwythnos y Pasg i ddathlu buddugoliaeth Iesu Grist ac i ddyrchafu ei enw. Yna cawsom gyfnod o ganu mawl - cyfuniad o ganeuon modern ac emynau cyfarwydd - wedi'i arwain gan Owain Edwards a'r band.

Yn seiliedig ar 2 Brenhinoedd 6-7, roedd neges Hywel Edwards yn cymharu ein sefyllfa bresennol gyda'r ddinas dan warchae: y Syriaid o'n blaenau a thrigolion y ddinas yn newynu. Gall yr amgylchiadau hyn arwain at gyfyngder ac anobaith, a gydag anobaith mae'n calonnau'n caledu i'r hyn sydd gan Dduw i'w ddweud wrthym. Ai dyma ein ble rydyn ni erbyn hyn? Os felly, dylem edifarhau ac ailddarganfod ein hyder a sicrwydd yng Nghair Duw.

Ydyn ni'n credu mewn gwirionedd fod y fuddugoliaeth eisoes wedi'i hennill a bod uffern wedi'i threchu? 'Pam aros yma nes inni farw?' gofynnodd y gwahanglwyfion. Yr un yw'r Iesu heddiw ag y bu erioed, a thrwy weithredu does gennym ddim i'w golli a phopeth i'w ennill. Mae'r ateb yn syml: 'Dewch, mentrwn.'

No comments:

Post a Comment