Pam fu Iesu farw? Adroddiad o gyfarfod y Grwp Trafod, 19 Ebrill

Fe wnes i dri pheth yn Festri Capel Llwyncelyn am y tro cyntaf nos Fawrth: cael paned o goffi, ei hyfed allan o fyg, a gwneud hynny yng nghyfarfod y Grwp Trafod!

Daeth saith ohonom at ein gilydd yn y festri i drafod arwyddocad marwolaeth Iesu Grist: pwnc dwys ond nid un i alaru yn ei gylch. Yn wir, roeddem yn trafod pam fod y groes, offeryn gafodd ei ddefnyddio i arteithio a dienyddio, yn cael ei weld gan Gristnogion fel symbol o obaith.

Rhannwyd y cyfarfod yn ddwy ran. Roedd y naill yn cyflwyno problem a'r llall yn cynnig datrysiad. Does neb yn teimlo'n gyfforddus wrth drafod problemau, yn enwedig pan fyddant yn berthnasol iddyn nhw. Roedd y broblem dan sylw yn berthnasol i bob un ohonom, sef ein hanallu i fyw yn ol y safon mae Duw wedi'i osod i ni, does dim un ohonom yn 'ddi-bechod'. Trafodwyd natur 'pechod', gair nad ydyn ni'n ei glywed yn aml y dyddiau hyn, yr effaith a gaiff ar ein bywydau ac ar ein perthynas â Duw.

Yna trowyd at y datrysiad: mae Duw wedi anfon ei fab Iesu Grist i gymryd arno ei hun ein beiau ni. Mae marwolaeth Iesu ar y groes yn ein rhyddhau o gaethiwed pechod ac yn ein galluogi i fyw mewn perthynas â Duw.

Un pwynt cofiadwy a wnaed oedd fod y boen ysbrydol a wynebodd Iesu ar y groes pan gafodd ei wahanu oddi wrth Dduw y Tad yn fwy dirdynnol hyd yn oed na'r boen gorfforol o gael ei groeshoelio. Mewn sefyllfa lle gwelwyd dynolryw ar ei gwaethaf, gwelwyd hefyd ddyfnder cariad Duw tuag atom.

Cynhelir ein cyfarfod nesaf yn festri Capel Llwyncelyn ymhen tair wythnos, am 7pm ar nos Fawrth 10 Mai. Croeso i unrhyw un sydd a diddordeb mewn trafod sylfaeni'r ffydd Gristnogol i ymuno a ni. Bydd rhagor o wybodaeth am y testun yn ymddangos ar y wefan ymlaen llaw.

No comments:

Post a Comment