Annwyl Gyfeillion
'Addaswch neu byddwch farw.' Dyna oedd rhybudd Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad i brifysgolion Cymru ar ddiwedd 2010. Er fod y cyd-destun ychydig yn wahanol, byddai'r neges ddigyfaddawd hon yn taro deuddeg gyda Christnogion ar hyd a lled y wlad. Mae'n amlwg ers tro mai dyma'r her sy'n wynebu nifer fawr o eglwysi Cymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Gyda'r niferoedd sy'n mynychu capel ar y Sul yn gostwng ac eglwysi'n datgorffori ar raddfa gynyddol, mae'r rhagolygon yn dweud y bydd nifer yr eglwysi Annibynnol yng Nghymru wedi haneru erbyn 2025. Rhaid i eglwysi addasu os ydynt i oroesi.
Mae Eglwys Annibynnol Llwyncelyn ymhlith yr eglwysi sy'n barod i ymateb i'r her. Yma y cynhaliwyd peilot y Cynllun Arweinyddion a luniwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg er mwyn meithrin doniau a sgiliau arweinyddol aelodau'r eglwysi yn wyneb prinder gweinidogion. Cefais fy neilltuo fel arweinydd i'r Eglwys ar ddechrau 2009 ac rwy'n parhau yn y swydd honno, gan arwain gwasanaethau a gweithgareddau i geisio datblygu bywyd yr eglwys. Yn dilyn adroddiadau cadarnhaol o Lwyncelyn, mae'r Cynllun Arweinyddion bellach wedi'i gymeradwyo'n swyddogol ac mae eisoes wedi'i fabwysiadu gan eglwysi eraill.
Wrth gyflwyno newid o unrhyw fath, rhaid gwybod y rhesymau dros wneud hynny. Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn seiliedig ar holiadur a thrafodaethau ar y Suliau, lluniwyd gweledigaeth a chynllun er mwyn rhoi cyfeiriad i ddatblygiad yr eglwys dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Ein gweledigaeth yw y bydd Eglwys Annibynnol Llwyncelyn yn gymuned o frodyr a chwiorydd yng Nghrist sy'n fywiog a gweithgar ac yn cynnwys pobl o bob oed. Gyda'r amcan hwn mewn golwg, yr ydym wedi nodi sawl agwedd o fywyd yr eglwys y gellir ei datblygu, o'n gwasanaethau ar y Sul i ymarferoldeb yr adeiladau a'r cyfleusterau, o gynhaliaeth ysbrydol yr aelodau i'w hymdrechion i estyn allan i'r gymuned. Mae'r cynllun ar gyfer y dyfodol yn rhoi cyfeiriad pendant i'r eglwys, a hynny fel cymuned fyw o gredinwyr yn hytrach na chorff o draddodiad neu gasgliad o greiriau.
Wrth gwrs, ni ellir cyflwyno'r holl ddatblygiadau hyn dros nos, ond cymerwyd y camau cyntaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwelwyd y newid mwyaf yn y gwasanaethau a gynhelir ar Sul cyntaf pob mis. Mae gweithgareddau'r Suliau hynny bellach wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer y teulu oll a byddwn yn cael paned a thamaid i'w fwyta yn y festri yn dilyn y gwasanaeth.
O ran datblygiad a chynhaliaeth ysbrydol, ffurfiwyd grwp trafod i gyfarfod bob pythefnos ac mae wedi dechrau drwy ddilyn y Cwrs Alffa. Estynwyd gwahoddiad i aelodau eglwysi eraill yr ofalaeth a, gyda maint y diddordeb, yr ydym yn hyderus y bydd y grwp yn mynd o nerth i nerth yn y flwyddyn nesaf.
Mae adeiladau a chyfleusterau yn werthfawr i weithgareddau'r eglwys ac y mae'n hollbwysig eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Er mwyn hwyluso gweithgareddau plant a ieuenctid yn y festri, penderfynwyd y dylid cyfnewid meinciau'r festri am gadeiriau a byrddau y gellir eu rhoi i'r naill ochr yn ôl yr angen.
Mae Clwb Sul y Fro yn parhau i gyfarfod yn y festri a chafwyd blwyddyn brysur arall. Ymhlith yr uchafbwyntiau, rhoddwyd noson o adloniant i breswylwyr Cartref Gofal Min y Môr yn Aberaeron, cynhaliwyd prynhawn Nadoligaidd yn y festri i godi arian at Apel Nadolig Cymorth Cristnogol, a chrewyd darn o waith celf lliwgar sy'n portreadu tair golygfa o stori Jona gan ddefnyddio sbwriel wedi'i ailddefnyddio.
Mae Eglwys Annibynnol Llwyncelyn hefyd wedi dechrau defnyddio'r We Fyd Eang er mwyn rhannu newyddion a chodi ymwybyddiaeth am ei gweithgareddau. Mae ganddi gyfrif Twitter (@CapelLlwyncelyn), grwp ar Facebook a gwefan (www.llwyncelyn.blogspot.com).
Fel y dywedodd un aelod yn ddiweddar, bydd angen mwy na dodrefn newydd i newid ein sefyllfa. Rhaid wrth dri pheth wrth weithio tua'r nod. Yn y lle cyntaf, mae angen i ni fod yn barod i roi o'n hamser ac ynni i wasanaethu'r eglwys, a gwneud hynny yn llawen. Yn ei lythyr cyntaf at y Corinthiaid, mae Paul yn sôn am yr amrywiaeth doniau y mae Duw wedi'i roi i bob un ohonom a rhaid i ni fod yn barod i'w meithrin a'u defnyddio ym mywyd yr Eglwys. Yn ail, mae'n bwysig ein bod yn rhannu'r weledigaeth ac yn cefnogi ein gilydd yn ein hymdrechion i'w gwireddu. Er fod pob un ohonom â chyfraniad unigryw i'w wneud, mae Paul yn ein hatgoffa hefyd ein bod oll yn aelodau o'r un corff. Yn drydydd ac yn bennaf oll, rhaid cofio mai Duw yw gwir Arweinydd yr eglwys hon ac y dylem geisio ei arweiniad yn ein holl weithgareddau. Beth bynnag ein hymdrechion, Duw yn unig all roi llwyddiant iddynt. Mae angen i ni felly weddïo'n daer ac yn rheolaidd am ei arweiniad a'i fendith ar ein gweithgarwch.
Ar adeg pan fyddo rhai yn rhagweld diflaniad Cristnogaeth yn llwyr o'n gwlad, dyma gyfle i sicrhau fod efengyl Crist yn parhau i gael ei chyhoeddi yn Llwyncelyn. Os penderfynwn ymateb yn gadarnhaol i'r her, mae amser cyffrous o'n blaen fel eglwys.
Bendith Duw arnoch oll.
Dr Dafydd Tudur
Arweinydd
Eglwys Annibynnol Llwyncelyn
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment