Clwb Sul wedi ail-ddechrau!

Ar brynhawn dydd Sul, 18 Ionawr, ailgychwynodd yr Ysgol Sul yn festri capel Llwyncelyn. Bydd y Clwb Sul yn cyfarfod yn Festri'r Capel bob yn ail Sul am 4 y pnawn (oni nodir yn wahanol).

Diolch yn fawr i Jeanette a Neris am eu hymroddiad i weithgaredd sy'n meithrin y plant yn y ffydd ac sydd mor bwysig i ddyfodol yr eglwysi yn Llwyncelyn a Mydroilyn.

Cynhelir y Clwb Sul nesaf am 9.45 ar ddydd Sul, 1 Chwefror, yn Festri Llwyncelyn er mwyn ymarfer ar gyfer y Gymanfa Ganu.

1 comment:

  1. Hyfryd iawn clywed am y Clwb Sul - ac yn wir, am y datblygiadau yn Llwyncelyn yn gyffredinol. Sawl tro, wrth fynd o gwmpas yn pregethu, y clywaf pobl yn dweud "Ma' pethe'n mynd lawr, ond beth allwn ni 'neud?" Wrth ateb, gallaf son nawr at yr hyn yr ydych chi yn ei wneud. Gan ddymuno pob llwyddiant a bendith ar eich gwaith. Alun.

    ReplyDelete