Gwasanaeth, 25 Ionawr 2009

Roedd Dafydd yn arwain gwasanaeth am y tro cyntaf ers iddo gael ei neilltuo fel arweinydd ar Eglwys Llwyncelyn ar ddydd Sul. A hithau'n ddydd Santes Dwynwen, dechreuodd y gwasanaeth gyda darlleniad ar 'gariad' o lythyr Paul at y Corinthiaid (13:4-7), gan nodi'r gwahaniaeth rhwng cariad brawdol, cnawdol neu famol ar y naill law, a chariad Duw - Agape - ar y llaw arall.

Roedd y bregeth yn seiliedig ar bennod gyntaf Llyfr Nehemeia. Wedi rhoi rhywfaint o gefndir hanesyddol, nodwyd mor berthnasol yw stori Nehemeia i'n sefyllfa ni heddiw. Sut ydyn ni'n ymateb i sefyllfa ein heglwysi yng Nghymru ar ddechrau'r 21ain ganrif? Ydyn ni'n galaru ac yn edifarhau fel ag y gwnaeth Nehemeia o glywed am gyflwr Jerusalem a'i phobl? Ai troi at Dduw mewn gweddi yw ein cam cyntaf, gan gydnabod ein dibyniaeth lwyr arno a phwyso ar ei addewidion? Ac a ydyn ni'n barod i weithredu mewn ffydd fel ag y gwnaeth Nehemeia?

Ar ddiwedd y gwasanaeth, cafwyd cwrdd eglwys i drafod rhai syniadau ar gyfer y dyfodol. Cewch wybod amdanynt yn fan hyn dros yr wythnosau nesaf ...

No comments:

Post a Comment