Showing posts with label Cymanfa Ganu. Show all posts
Showing posts with label Cymanfa Ganu. Show all posts

Clwb Sul wedi ail-ddechrau!

Ar brynhawn dydd Sul, 18 Ionawr, ailgychwynodd yr Ysgol Sul yn festri capel Llwyncelyn. Bydd y Clwb Sul yn cyfarfod yn Festri'r Capel bob yn ail Sul am 4 y pnawn (oni nodir yn wahanol).

Diolch yn fawr i Jeanette a Neris am eu hymroddiad i weithgaredd sy'n meithrin y plant yn y ffydd ac sydd mor bwysig i ddyfodol yr eglwysi yn Llwyncelyn a Mydroilyn.

Cynhelir y Clwb Sul nesaf am 9.45 ar ddydd Sul, 1 Chwefror, yn Festri Llwyncelyn er mwyn ymarfer ar gyfer y Gymanfa Ganu.