Daeth y Grwp Trafod at ei gilydd ar nos Fawrth, 5 Ebrill, i drafod y cwestiwn 'Pwy yw'r Iesu go iawn?' - cwestiwn sylfaenol i'r ffydd Gristnogol.
Roeddem yn gytun nad 'naid ddall mewn ffydd' yw Cristnogaeth, ond un sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rheswm. Ai dyn da neu athro mewn moesoldeb yn unig oedd Iesu? Os yw'r ffynhonellau'n ddibynadwy, ac mae rheswm cryf dros gredu hynny, mae'n ymddangos nad yw hynny ymhlith y posibiliadau.
Naill ai roedd Iesu yn wallgof, yn ddihiryn neu mai ef yw'r Meseia, Mab y Duw byw. O edrych ar ei ddysgeidiaeth a'i weithredoedd, boed yn wyrthiau neu'n weithredoedd syml o gariad, mae'r dystiolaeth yn pwyntio at yr olaf.
Os hoffech chi drafod cwestiynau yn ymwneud a sylfaeni'r ffydd Gristnogol, mae croeso i chi ymuno a'r Grwp. Byddwn yn cyfarfod nesaf yn festri Capel Llwyncelyn am 7 o'r gloch ar nos Fawrth, 19 Ebrill.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment