Mae Iesu o Nasareth wedi'i bortreadu mewn gwahanol ffyrdd gan bobl ar wahanol adegau mewn hanes, ond beth mae oedd Iesu'n ei ddweud amdano'i hun a pha mor ddibynadwy yw'r dystiolaeth? Ai felly ydyn ni'n gweld Iesu? Ac, os yw hynny'n wir, beth mae hynny'n ei olygu i ni?
Dyma rai o'r cwestiynau fydd testun ail gyfarfod y Grwp Trafod fydd yn cyfarfod yn Yr Hen Siop, Derwen Gam, ar nos Fawrth 5 Ebrill 2011. Byddwn yn dechrau am 7.15 ac yn gorffen yn brydlon am 8.45.
Mae'r Grwp yn gyfle i drafod mewn awyrgylch anffurfiol a chartrefol ac mae croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at capel.llwyncelyn@gmail.com
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment