Cafodd aelodau eglwysi'r ofalaeth lawer iawn o hwyl yn yr eisteddfod gafodd ei chynnal yn festri Capel Peniel, Aberaeron, ar nos Iau, 14 Ebrill. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol ac yn gyfle i aelodau'r eglwysi i ddod at ei gilydd i berfformio a chystadlu mewn cystadlaethau llenyddol a llwyfan.
Dechreuodd y noson gyda chystadlaethau'r plant, ac er nad oedd llawer yn cystadlu eleni, roedd graen ar y perfformiadau a'r gweithiau celf. Roedd Dylan yn llawn haeddu ei ruban goch am adrodd y gerdd 'Ffurflenni' a chafwyd perfformiadau grwp o 'Hei hei hei' o Ddetholiad y Gymanfa Blant a dwy gan bop.
Cafodd aelodau Eglwys Annibynnol Llwyncelyn lwyddiant mawr yn y cystadlaethau canu emyn yr oedolion, Dafydd yn ennill y categori dan 60 ac Elizabeth yn ennill dros 60. Bu Llwyncelyn a Mydroilyn yn cystadlu ar y cyd mewn nifer o gystadlaethau: Dafydd ac Arwel yn rhannu'r wobr gyntaf yn y ddeuawd gyda hwy eu hunain ar ol canu un darn 'difrifol' ac un arall doniol! Dan o Aberaeron aeth a hi yn yr unawd pop a Bois Peniel oedd y grwp pop buddugol. Nest, hefyd o Peniel, oedd enillydd teilwng yr adrodd digri. Cafodd Peniel lwyddiant mawr yn y cystadleuaethau ysgrifenedig hefyd gyda Bethan yn ennill y Gadair gyda cherdd wych ar y testun 'Yr Ysgol'.
Daeth y noson i ben gyda chystadleuaeth y cor. Roedd Peniel a 'Lleisiau Llwynoilyn' wedi dewis yr un darn 'Hafod y Rhos' gan Alun Tegryn Evans. Roedd hi'n gystadleuaeth agos, ond Lleisiau Llwynoilyn aeth a hi.
A dyna Eisteddfod drosodd am flwyddyn arall. Gobeithio yn fawr ein bod wedi eich perswadio i ymuno a ni y flwyddyn nesaf a gallwn sicrhau y bydd yr un hwyl i'w gael yn 2012.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment