Ar 6-7 Ebrill daeth aelodau eglwysi o bob rhan o Geredigion at ei gilydd yn festri Llwyncelyn ar gyfer cyfarfodydd Taith Fawr y Cyfundebau. Dros gyfnod o 24 awr, cafwyd astudiaeth Feiblaidd, seiat holi a chwrdd.
Yn ogystal a chlywed am weithgarwch a gwasanaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, bu'r cyfarfodydd yn gyfle i ddysgu mwy am yr eglwys Annibynnol o ran ei tharddiad, ei llywodraeth a'i pherthynas ag eglwysi eraill. Cafodd pawb a oedd yno eu herio i ystyried eu rol bersonol hwy ym mywyd eu heglwys, a pha ddoniau y mae Duw wedi'u rhoi iddynt ar gyfer hynny. Cawsom ein hatgoffa nad ein heglwysi ni mohonynt, ond eglwysi Iesu Grist, a chawsom ein hannog i ymroi o'r newydd i waith y Deyrnas a gwneud hynny gyda ffydd, gobaith a chariad.
Hoffem ddiolch am yr ysgogiad a'r anogaeth a dymunwn fendith Duw ar Daith y Cyfundebau wrth iddi symud ymlaen i Ogledd Morgannwg a Mynwy fis nesaf.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment