Casglu bwyd i Fanc Bwyd Aberteifi

Ar Sul cyntaf pob mis o hyn ymlaen, byddwn yn casglu eitemau bwyd fydd yn cael eu cyfrannu gan aelodau a chyfeillion Eglwys Annibynnol Llwyncelyn i'w dosbarthu ymhlith yr anghenus yng ngorllewin Cymru.

Mae'n anodd credu bod galw am elusen fel Banciau Bwyd y Trussell Trust yma yng ngwledydd Prydain, ond mae'r galw amdanynt wedi bod yn syfrdanol gyda bron i filiwn o bobl yn derbyn tocynau bwyd brys yn 2013-14. Yn Aberteifi y mae'r Banc Bwyd agosaf i ni a cheir rhagor o wybodaeth amdano ac am yr elusen yn gyffredinol ar ei wefan.

Gofynnir i gefnogwyr gyfrannu rhai bwydydd penodol i'r Banc Bwyd, sef:

Llaeth (UHT neu bowdr)
Siwgr (500g)
Sudd ffrwythau (Carton)
Cawl (Soup)
Saws pasta
Sponge pudding (mewn tun)
Tomatos (mewn tun)
Grawnfwydydd (cereals)
Pwdin reis (mewn tun)
Bagiau te / coffi instant
Tato mash instant
Reis/pasta
Cig/pysgod mewn tun
Llysiau mewn tun
Ffrwythau mewn tun
Jam
Bisgedi neu snack bars

Os hoffech chi gyfrannu rhai o'r eitemau hyn, dewch รข hwy i Lwyncelyn am 2pm ar Sul cyntaf pob mis. Byddwn hefyd yn y festri rhwng tua 3 a 3.30.

No comments:

Post a Comment