Cyfarfod cyntaf y Grwp Trafod

Daeth pump o aelodau eglwysi'r cylch at ein gilydd yn nhy Dafydd ac Elin ar nos Fawrth, 22 Mawrth, ar gyfer cyfarfod cyntaf y Grwp Trafod.

Rydym wedi dechrau dilyn y Cwrs Alffa a thestun ein cyfarfod cyntaf oedd 'Cristnogaeth: Diflas, amherthnasol ac anwiredd?' Mae'r cwrs yn gyflwyniad gwych i'r ffydd Gristnogol ac yn rhoi cyfle i drafod 'cwestiynau mawr' mewn awyrgylch anffurfiol a chartrefol. Roeddem yn eistedd wrth y tan coed gyda phaned a llond plat o gacs! Roedd y pynciau gafodd eu trafod yn amrywio o sefyllfa bresennol y capeli i rai o egwyddorion sylfaenol y ffydd Gristnogol.

Byddwn yn cyfarfod nesaf yn r'un man a r'un amser ar nos Fawrth 5 Ebrill. Croeso i unrhyw un ymuno hefo ni!

Os byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol, neu os hoffech chi gychwyn grwp eich hunain yn eich capel chi, gallwch anfon neges ebost at capel.llwyncelyn@gmail.com.

No comments:

Post a Comment