I Batagonia! (Adroddiad, Myfyrdod a Gweddi)

Adroddiad


Dathlu Dydd Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry ymfudo i Batagonia!



Cynhaliwyd dathliad Gwyl Dewi a 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yng nghapel a festri Llwyncelyn ar 6 Mawrth 2015. 

Arweinwyd y noson gan Arwel Fronwen a chafwyd cyflwyniad byr ar hanes sefydlu’r Wladfa gan Dafydd Tudur cyn symud ymlaen at yr uchafbwynt, sef y wledd o ddoniau amrywiol disgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron. Cawsom ddiolchiadau ac anerchiad gan Catrin Cwmsaeson ac aeth pawb i’r festri, lle roedd llond gwlad o fara, caws, jam, pice bach a bara brith yn eu disgwyl. 

Roedd yr arian a gasglwyd ar y drws yn mynd tuag at daith Catrin i Batagonia gyda’r Urdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bu’n noson arbennig o lwyddiannus a chofiadwy dros ben a diolch i bawb a gyfrannodd ati ac a’i cefnogodd.


Myfyrdod

Gobaith o Fywyd Gwell


Wrth glywed yr hanes am sefydlu’r Wladfa, mae’n anodd peidio gweld y cysylltiad rhwng y sefyllfa a wynebai nifer o Gymry yn y dyddiau hynny a’r sefyllfa yng nghefn gwlad heddiw.

Roedd rhent a’r degwm yn gwasgu ar deuluoedd yng Ngymru’r 19eg ganrif ac roedd prinder cartrefi neu dir i bobl ifanc. Doedd dim dewis i nifer fawr ohonynt ond mynd dros y ffin i Loegr, neu edrych ymhellach tuag at America neu Awstralia, i chwilio am fywyd gwell. Ac fel y gwelodd Michael D. Jones, cost hynny fel arfer oedd bod y Cymry a’u disgynyddion yn defnyddio llai ar y Gymraeg ac yn colli pob arwydd o’u tras Cymreig.

Gyda Gwladfa Gymreig, roedd gobaith y byddai’r ymfudwyr yn cael y gorau o’r ddau fyd: y gobaith o ryddid o gaethiwed economaidd ac hefyd y gobaith o fyw mewn cymdeithas oedd wedi ei ffurfio ar sail iaith a diwylliant y Cymry. Roedd yn brosiect i greu dim llai na Chymru ‘newydd’, a honno’n Gymru well.



Gwlad yr Addewid


Yn y Beibl, cawn hanes Duw yn defnyddio Moses ac yna Joshua i arwain cenedl Israel o gaethiwed yr Aifft i wlad yr addewid, ble roeddent i ddechrau bywyd newydd a gwell. Mae’r hanes hwn - un sy’n cynnwys digwyddiadau fel y berth yn llosgi, y deg pla, agor y Mor Coch, a chwymp Jericho - yn un o hanesion mwyaf epig a chyfarwydd yr Hen Destament.

Ond pwyntio mae’r hanes hwnnw at ddigwyddiadau mwy sylfaenol ac arwyddocaol yn hanes y byd - hanes sydd a goblygiadau enfawr i’r ddynoliaeth gyfan. Dyma’r hanes am Dduw yn arwain ei bobl o dywyllwch a chaethiwed eu pechod i oleuni a rhyddid y bywyd tragwyddol. Un o ryfeddodau mawr yr hanes hwn yw ei fod yn digwydd mewn ffordd sy’n cyflawni proffwydoliaethau’r Hen Destament, ac eto mor annisgwyl i’r bobl a oedd yn seilio’u diwylliant a’u cred ar yr ysgrythurau hynny. Mae’n ei wneud trwy’r un a alwyd yn Iesu.

Mae grwp ohonom wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol yn Yr Hen Siop ers yr hydref i astudio bywyd Iesu fel mae wedi’i gofnodi. Rhai o’r pethau sydd wedi fy nharo yn y cyfarfodydd hyn yw’r ffordd mae nhw wedi herio ein rhagdybiaethau (assumptions) a rhagfarnau (prejudices) ynglyn â Iesu ac wedi dangos i ni sylwedd a chyfoeth y Beibl. Ymhob peth - ei eiriau, ei weithredoedd a hyd yn oed ei enw (sy’n tarddu o’r hebraeg Yeshua, sy’n golygu ‘Duw yn achub’) - roedd Iesu yn dangos mai ef yw’r drws i fywyd tragwyddol (Ioan 10:9).


Enw arall a roed i Iesu, yn ôl hanes y geni, yw Immanuel ‘hynny yw, o’i gyfieithu “Y mae Duw gyda ni”’ (Mathew 1:23). A dyma ryfeddod arall yr hanes am Dduw yn arwain ei bobl i wlad yr addewid, sef ei fod ef wedi dod atom ni ym mherson Iesu Grist. Nid rhywbeth sydd ymhell i ffwrdd - rhywbeth y mae’n rhaid i ni aros amdano tan y bydd ein bywyd ar y ddaear hon yn dod i ben - yw ‘bywyd tragwyddol’. Trwy ddod i adnabod yr Iesu fel yr un sydd wedi dod i’n hachub, cawn wybod beth yw ‘bywyd tragwyddol’ yn y bywyd hwn yn ogystal a’r nesaf (Ioan 17:3). 


Cadw’r addewid


Rwyf wedi clywed gwahanol bobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i hanes y Wladfa. Mae rhai yn cael eu llenwi ag edmygedd tuag at yr ymfudwyr ar sail eu dyfalbarhad er gwaethaf pob caledi a dioddefaint; mae eraill yn feirniadol iawn o’r arweinyddion ac yn eu cyhuddo o gamarwain yr ymfudwyr i ddarn o dir a oedd, ar ol gadael eu cartrefi a theithio miloedd o filltiroedd, yn anaddas ar eu cyfer. Maent yn cyhuddo’r arweinyddion o dorri’r addewid oedd yn sylfaenol i’r fenter.

Hyd yn oed i’r Cristion gyda’r argyhoeddadau dyfnaf, bydd adegau mewn bywyd pan nad yw ‘bywyd tragwyddol’ yn teimlo fel petai gyda ni yn barod. Rydym yn byw mewn byd ble mae caledi a dioddefaint yn realiti a bydd yn rhan o brofiad pob un ohonom yn ystod ein hoes. Rwyf wedi clywed am rai sydd wedi pellhau oddi wrth Dduw ar adegau felly. Gall deimlo bod Duw yn absennol, wedi torri ei addewid ac wedi ein siomi.

Ond neges y Beibl yw bod Duw yn agos atom ymhob sefyllfa, ac mae’n dymuno i ni wybod hynny, yn enwedig pan mae pethau yn anodd arnom (Salm 34:18). Mae am i ni wybod ei fod yn Dduw ffyddlon sy'n cadw ei addewidion (Deut 7:9), er mor anodd y gall hynny fod o bryd i’w gilydd, ac ymddiried ynddo i roi i ni bopeth sydd ei angen arnom i wynebu unrhyw beth. Y mae Duw gyda ni ac y mae Duw yn ein hachub. 

Gweddi

Diolchwn am y dathliad gafodd ei gynnal yn y Capel a'r festri - am gael dathlu doniau ieuenctid yr ardal, ein hiaith a'n diwylliant, yn ogystal a hanes rhyfeddol y Wladfa. Diolch hefyd ein bod wedi mwynhau cwmni ein gilydd a gofynnwn am fendith Duw ar Catrin a Carwyn pan fyddant yn teithio i Batagonia yn ddiweddarach eleni. 

Diolchwn bod Duw yn gweld ein anghenion ac yn estyn allan atom bob un, beth bynnag ein sefyllfa. Gweddiwn am gymorth i ymddiried yn Nuw ac i bwyso ar ei addewidion bob amser gan gofio’r cariad mae wedi ei ddangos tuag atom yn Iesu Grist. Amen.


No comments:

Post a Comment