Llenwi’r bwlch yng nghymunedau cefn gwlad

Un profiad sy’n gyffredin ar draws cefn gwlad Cymru yn y blynyddoedd diweddar yw cau’r adeiladau a fu unwaith yn ganolfannau i fywyd cymunedol.

Rhwng 2007 a 2009, caewyd 157 o swyddfeydd post ar draws Cymru fel rhan o’r Rhaglen Newid Rhwydwaith Swyddfeydd Post. Yr un fu tynged nifer o siopau pentref, nid oherwydd unrhyw benderfyniad oddi uchod, ond oherwydd methiant i gystadlu a phrisiau gostyngol yr archfarchnadoedd mawrion. Rhoddwyd cryn sylw hefyd i’r bygythiad i ysgolion gwledig, yn arbennig drwy ymgyrch aflwyddianus i gadw drysau Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala, ar agor.

Canlyniad y datblygiadau hyn yw pellhau gwasanaethau pwysig fel y post a’r siop ac adleoli (ac weithiau gwasgaru) ieuenctid yr ardal. Mae’n lleihau cyfleon ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a phontio cenedlaethau, sydd yn eu tro yn cael effaith andwyol ar y gymuned ac yn gwneud i rai o’i haelodau mwyaf bregus deimlo’n ynysig ac yn unig.

Er mor drist yw gweld yr adeiladau hyn yn cau eu drysau, tybed a yw’r bwlch a adewir ar ol ganddynt yn un y gall yr eglwysi ei lenwi? Yn wahanol i’r dafarn leol, nid yw parhad eglwysi yn ddibynnol ar incwm; i’r gwrthwyneb, mae nifer o eglwysi yn gymharol gysurus yn ariannol. Mae gan nifer o gymunedau eu neuaddau pentref, ond er y cynhelir gweithgareddau ynddynt yn rheolaidd, adeiladau digon oeraidd a digroeso ydynt yn aml iawn.

Gydag ychydig o weledigaeth, rhywfaint o fuddsoddiad ariannol a chnewyllyn o wirfoddolwyr, gallai eglwys droi ei hadeiladau yn ofodau croesawgar, cysurus a chartrefol a’u troi yn ganolfannau galw heibio (‘drop-in centres’) yn ystod yr wythnos. Gellid, er enghraifft, rhoi seddi cyfforddus i eistedd arnynt i sgwrsio. Gellid gosod rhwydwaith wi-fi i alluogi ymwelwyr i bori’r We neu weithio. Gellid cynnig rhywbeth i ddifyrru ieuenctid yr ardal gyda’r nos (bwrdd pwl neu offer tenis bwrdd). Trwy drefnu rota, gallai aelodau’r eglwys fod yno ar wahanol nosweithiau o’r wythnos i roi croeso a gwasanaethu’r ymwelwyr.

Nid wyf yn meddwl am funud y buasai hyn yn hawdd. Buasai’n golygu goresgyn ein sentimentaliaeth ynghylch ein hadeiladau a’n nerfusrwydd ynghylch gweithgareddau estyn allan. I aelodau’r gymuned, tybiaf y bydd yn gam mawr i nifer ohonynt osod troed ar dir y capel. Byddai angen gweddio’n gyson dros y gwaith a gofyn am arweiniad, dyfalbarhad, amynedd, doethineb a chariad at ein cymydog. Buasai angen i ni gofio hefyd bwysigrwydd yr Ysbryd Glan i’r gwaith a’i ganlyniadau.

A thrwy ddangos consyrn gwirioneddol dros anghenion ein cymunedau a pharodrwydd i’w diwallu, fe dyfa’r math o gyfeillgarwch ac ymddiriedaeth sydd mor werthfawr mewn unrhyw gymdeithas ac, yn hwyr neu’n hwyrach, fe ddaw cyfle i son am weithgareddau eraill yr eglwys ac estyn gwahoddiad iddynt. A thrwy geisio llenwi’r bwlch cymdeithasol sydd wedi datblygu yng nghynifer o gymunedau cefn gwlad Cymru, yr wyf yn ffyddiog y daw cyfle hefyd i esbonio’r modd y mae Duw wedi llenwi’r bwlch llawer mwy yn ein bywyd drwy’r hyn a wnaeth Iesu drosom.

DT (Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tyst, Mai 2013)

No comments:

Post a Comment