Daeth y newyddion yn oriau man bore ddoe (2 Mai 2011) fod milwyr Americanaidd wedi dienyddio'r arweinydd terfysgol Osama Bin Laden yn nhref Abbottabad ym Mhacistan. Fe'i derbyniwyd gyda llawenydd mawr mewn sawl rhan o'r byd, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau ble cyflawnwyd un o'r gweithredoedd terfysgol gwaethaf dan orchymyn Bin Laden, sef ymosodiadau 9/11.
Nid pawb oedd yn teimlo'r un llawenydd. Ofnai eraill y byddai marwolaeth Bin Laden yn ysgogi yn hytrach na digalonni'r terfysgwyr dan ei ddylanwad. Caiff Bin Laden ei weld fel merthyr arwrol yn hytrach nag arweinydd methedig. Yn eu golwg hwy, byddai dienyddiad Bin Laden yn siwr o arwain at gynnydd yn nifer a graddfa gweithredoedd terfysgol. Oni fyddai wedi bod yn ddoethach ei ddal yn garcharor a'i adael mewn cell weddill ei ddyddiau?
Rhaid i mi gyfaddef fod y ddau ymateb hyn wedi gwneud i mi deimlo braidd yn anesmwyth. Methais a theimlo unrhyw fath o lawenydd ym marwolaeth Bin Laden. Roedd rhai yn disgrifio Bin Laden fel 'drygioni pur', ond rydym oll wedi ein creu a lun a delw Duw. Cytunaf yn gryf ag ymateb yr Jessica Dovey ar Facebook pan glywodd y newyddion (geiriau a gamddyfynwyd fel rhai Dr Martin Luther King Jr): "I mourn the loss of thousands of precious lives, but I will not rejoice in the death of one, not even an enemy."
Ond beth am yr holl droseddau erchyll a gyflawnodd, meddech chi? Onid oedd Bin Laden yn haeddu cosb am yr erchyllderau a gyflawnwyd dan ei orchymyn? Oedd, roedd Bin Laden yn haeddu cosb am y troseddau hyn, ond mae gennym ein systemau gweinyddu cyfraith gwladwriaethol a rhyngwladol er mwyn gwneud hynny'n heddychlon. Achos llys, nid y bwled, ddylai Bin Laden fod wedi'i wynebu.
Ond gwyddom fod Bin Laden yn gyfrifol am farwolaeth miloedd o bobl, meddai eraill; onid marwolaeth oedd yr unig gosb a haeddai? Mae'n amlwg fod yr ysfa i ddial yn gymysg a'r dyhead am gyfiawnder yn ymateb nifer o'r bobl a oedd yn llawenhau ym marwolaeth Bin Laden. Fel hyn y dywedir yn y llythyr at y Rhufeiniaid: 'Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: "Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,' medd yr Arglwydd."' (Rhuf 12:9). Rydym ni oll wedi syrthio'n brin o'r hyn y mae Duw yn ei ddymuno gennym, rydym ni oll wedi pechu ac rydym oll yn haeddu barn. Er ein bod ni'n sychedu am gyfiawnder, mae ein meddyliau yn cael eu llywio gan ein cymhellion hunanol ein hunain. Cyfiawnder ar ein telerau ein hunain y byddwn yn ei geisio gan amlaf. Dyna pam y gosodwyd strwythau cyfreithiol yn eu lle ac y mae angen i ni ymddiried ynddynt i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Eto i gyd, rhaid cofio mai Duw yn unig sy'n hollgyfiawn. Fy sicrwydd o hynny a'm diffyg hyder yng ngallu dynion i weithredu gwir gyfiawnder mewn materion o fywyd a marwolaeth yw sail fy ngwrthwynebiad i'r gosb eithaf.
Mae dysgeidiaeth Iesu yn ein herio i edrych ar ein gelynion mewn ffordd newydd. Cofier ei eiriau syml, eglur a digyfaddawd yn y bregeth ar y mynydd: 'Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid.' Y gorchymyn pendant hwn sydd wrth wraidd fy anesmwythyd wrth glywed rhai yn ceisio rhesymu na ddylai Bin Laden fod wedi'i ddienyddio oherwydd y gallai ysgogi terfysgwyr i gyflawni rhagor o erchyllderau. Er fy mod yn rhannu eu pryderon, nid ein diogelwch ein hunain ddylai benderfynu a yw ein gweithredoedd yn gywir a chyfiawn ai peidio. Os ydym i wrando ac ufuddhau i eiriau'r Iesu, cariad ddylai fod flaenaf yn ein hymateb i'n gelynion bob amser. I gwblhau'r dyfyniad o'r llythyr at y Rhufeiniaid: 'Os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.' (Rhuf 12:19-21)
Dafydd Tudur
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment